Cannoedd yn angladd Andrew 'Tommo' Thomas yn Aberteifi

  • Cyhoeddwyd
angladd Tommo
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cannoedd allan ar gae pêl-droed Maeslgas i dalu teyrnged i Andrew 'Tommo' Thomas

Mae cannoedd o bobl wedi dod allan yn Aberteifi ar gyfer angladd y darlledwr Andrew 'Tommo' Thomas.

Bu farw'r cyflwynydd radio adnabyddus yn sydyn yn ei gartref fis diwethaf, ag yntau'n 53 oed.

Fe wnaeth y dorf ymgasglu fore Sadwrn ger cae pêl-droed Maesglas yn y dref, ble roedd y gwasanaeth yn cael ei gynnal.

Cyrhaeddodd yr hers i gyfeiliant 'Yma O Hyd' gan Dafydd Iwan, gyda llawer o bobl yn gwisgo crysau'r Scarlets a CPD Abertawe.

'Egni, bwrlwm a charedigrwydd'

Roedd y ddau dîm yn agos at galon Tommo, oedd yn adnabyddus fel y llais ar yr uchelseinydd ym Mharc y Scarlets yng ngemau rygbi'r rhanbarth.

Bu'n llais cyfarwydd i wrandawyr radio yn ngorllewin Cymru am flynyddoedd, gan ennill gwobr Cyflwynydd Radio'r Flwyddyn yn 2011 am ei waith ar orsafoedd Nation yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.

Rhwng 2014 a 2018 roedd yn gyflwynydd rhaglen y prynhawn ar BBC Radio Cymru, cyn gadael i gyflwyno rhaglen ddyddiol ar orsaf Nation Broadcasting.

Disgrifiad o’r llun,

Cyrhaeddodd yr arch i gerddoriaeth 'Yma o Hyd' gan Dafydd Iwan

Y Parchedig Huw George arweiniodd y gwasanaeth, gan danlinellu rhinweddau o gymeriad Tommo - Y sŵn mawr, yr egni a'r bwrlwm, ond hefyd y caredigrwydd a'r cariad diderfyn at ei deulu.

Cyn-fewnwr Cymru a'r Scarlets, Rupert Moon aeth ymlaen â'r teyrngedau, gan danlinellu cyfraniad Tommo i fyd rygbi yn ardal Llanelli a thu hwnt.

Dywedodd Jon Daniels, Rheolwr cyffredinol Y Scarlets: "Ar adegau fel hyn, chi'n cofio'r cyfraniadau mae pobl wedi neud i'ch bywyd chi, ac mae'n gadael twll mawr.

"Ond yn sicr, bydd Tommo yn edrych lawr ar hyn, yn chwerthin, yn hapus fod cymaint o bobl o'r cymunedau oedd e'n eu cynrychioli, Y Scarlets, Aberteifi, Maesglas, a'r Swans, yma heddi i ffarwelio ag e."

Disgrifiad o’r llun,

Cymeradwyaeth gan bobl Aberteifi a thu hwnt i'r cyflwynydd adnabyddus

Fel rhan o'r gwasanaeth, fe ddaeth y grŵp lleol Ail Symudiad i'r llwyfan gan chwarae un o hoff ganeuon Tommo, 'Geiriau'.

Dywedodd Richard Jones, y prif leisydd, fod colli'r darlledwr wedi bod yn "dristwch mawr".

"We ni byth yn meddwl fydde fe'n dod i hyn gyda fe achos wedd e'n llawn bywyd," meddai.

"Dyn onest, yn 'neud lot i elusennau, yn meddwl lot o'i ardal, ac o Gymru. Mae'n drist iawn, ac mae'n rhaid i ni fod yma i roi teyrnged iddo fe.

Disgrifiad o’r llun,

Teithiodd yr hers drwy'r dref wedi'r gwasanaeth, gyda rhagor o bobl yn dod allan i dalu teyrnged

"Mae pobl y dre' yn meddwl lot ohono fe, a wedd e'n meddwl lot o bobl y dre'.

"Ond yr atgof mwyaf yw y sbort. 'Y sŵn mawr' oedd e'n galw'i hunan, ond roedd e'n berson annwyl ac mae'n golled fawr i ni gyd."

Fe ddaeth y gwasanaeth cyhoeddus i ben gyda'r arch yn cael ei chludo trwy ganol tref Aberteifi, a'r bobl yno yn sefyll yn cymeradwyo, wrth ffarwelio ag un o bersonoliaethau mwyaf yr ardal.