Teyrngedau i'r amgylcheddwr Stephen Marsh-Smith

  • Cyhoeddwyd
Stephen Marsh-SmithFfynhonnell y llun, Sefydliad Gwy ac Wysg

Mae teyrngedau wedi eu talu i'r amgylcheddwr Dr Stephen Marsh-Smith, a ddisgrifiwyd fel "cawr" ym myd gwarchod afonydd y DU.

Arweiniodd ymdrechion i sefydlu rhwydwaith o ymddiriedolaethau afonydd ledled y wlad, ar ôl creu un o'r rhai cyntaf - Sefydliad Gwy ac Wysg

Ef hefyd a gydsefydlodd yr Ymddiriedolaeth Pysgota (Angling Trust).

Bu farw ddydd Sadwrn yn 69 oed, ar ôl salwch byr.

'Gweledigaeth glir'

Dywedodd Simon Evans, Prif Weithredwr Sefydliad Gwy ac Wysg, fod sector amgylchedd Cymru wedi colli "pencampwr".

"Bu'n allweddol yn y gwaith o ffurfio'r mudiad Ymddiriedolaeth Afonydd y DU, a'r syniad o bobl gyffredin yn mynd ati i geisio edrych ar ôl eu hafonydd mewn ffordd nad oedd cyrff statudol yn gallu gwneud.

"Dros amser mae'r llywodraeth wedi dod i'n gweld ni fel partner allweddol o ran gallu cyflawni pethau i geisio adfer ein hafonydd.

"Ac mae gennym ni lais yn awr yn y ffordd y caiff yr amgylchedd ei reoli - mae hynny'n waddol sy'n mynd i barhau."

Sefydlodd Dr Marsh-Smith Sefydliad Gwy ac Wysg yn 1996, a gwasanaethodd fel ei brif weithredwr tan 2016.

Ffynhonnell y llun, Sefydliad Gwy ac Wysg

Wedi hynny daeth yn brif swyddog gweithredol Afonydd Cymru, y corff ymbarél sy'n cynrychioli chwe ymddiriedolaeth ranbarthol - symudiad a ddisgrifiodd fel "ymddeoliad o ryw fath".

Dywedodd Mark Lloyd, prif weithredwr Ymddiriedolaeth Afonydd y DU ei fod yn "ddyn hynod a gyflawnodd bethau bendigedig".

"Ar Afon Gwy yn enwedig dros flynyddoedd lawer bu'n goruchwylio gwelliant aruthrol yn iechyd yr afon a'i stociau o eogiaid, drwy gael gweledigaeth wirioneddol glir a pheidio â derbyn 'na' fel ateb," meddai.

Arweiniodd brosiectau calchu yn yr ucheldir i ddatrys problemau glaw asid, cael gwared ar gannoedd o rwystrau i bysgota pysgod, cytuno ar ddefnydd o gronfeydd dŵr i ychwanegu at lefelau afonydd yn ystod misoedd yr haf, a chreu cynefinoedd newydd ar lannau'r afon, i adfer yr eogiaid ar ôl iddynt blymio i'r lefel isaf erioed, meddai Mr Lloyd.

"Fel gwaddol i un unigolyn mae hynny'n drawiadol iawn."

'Heb stopio tan y diwedd'

Yn ogystal, chwaraeodd Dr Marsh-Smith ran flaenllaw yn y gwaith o ffurfio'r Ymddiriedolaeth Pysgota - gan ddod â llawer o grwpiau pysgota gwahanol o Gymru a Lloegr at ei gilydd i ffurfio un corff cynrychioliadol unedig.

Fel ymgyrchydd angerddol dros afonydd glanach, roedd wedi pwyso'n galed am newidiadau i bolisi rheoli tir a rheoleiddio llymach er mwyn atal achosion o lygredd.

Cyflwynodd gŵyn ffurfiol i Gomisiwn yr UE yn 2018 ynghylch ymdrech "hollol ddiwerth" Llywodraeth Cymru o ymdrin â llygredd amaethyddol.

"Lan tan ddydd Mawrth roeddwn i ar y ffôn gydag e o'i wely yn yr ysbyty yn dylunio cynllun i helpu pysgod," meddai Mr Evans. "Wnaeth o ddim stopio tan y diwedd - dyma oedd ei bethe fe."

Ffynhonnell y llun, Sefydliad Gwy ac Wysg

Ychwanegodd Chris Mills, cadeirydd Afonydd Cymru: "Fe wnaeth Stephen Marsh-Smith siŵr o fod wneud mwy i warchod a gwella ein hafonydd a'n pysgodfeydd yng Nghymru dros y 25 mlynedd nag unrhyw unigolyn arall.

"Gyda'i wybodaeth a'i sgiliau ymarferol, roedd Stephen mor gyfforddus yn dylanwadu ar weinidog llywodraeth ar faterion polisi ag yr oedd yn cynllunio prosiect adfer afon.

"Roedd e'n hollwybodol am ein hamgylchedd dŵr, roedd ei egni yno hyd y diwedd, ei angerdd dros yr amgylchfyd naturiol yn driw, ond yn bwysicach fyth, roedd e'n gwneud i bethau ddigwydd.

"Mae'n bosib mai dim ond nawr ei fod wedi'n gadael ni y byddwn ni'n sylweddoli gwir faint ei gyfraniad, a bydd rhai blynyddoedd eto dwi'n siŵr nes y bydd rhywun yn cymryd lle'r cawr yma ym myd pysgodfeydd."

Cystadlu'n rhynglwadol

Ganed Dr Marsh-Smith yn Warrington ond enillodd ysgoloriaeth gorawl i ysgol Eglwys Gadeiriol Llandaf yng Nghaerdydd, ac yma y cychwynnodd ei ddiddordeb mewn pysgota yng nghronfa ddŵr Llysfaen. Aeth ymlaen i gystadlu'n rhyngwladol wrth bysgota.

Cyn iddo symud i waith amgylcheddol roedd yn ddeintydd ym Mryste, yn arbenigo mewn gwaith ailadeiladu ac yn cyfrif y cogydd teledu Keith Floyd ymhlith ei gwsmeriaid.

Yn 2011 dyfarnwyd OBE iddo am wasanaethau i'r amgylchedd a chadwraeth ar afonydd Gwy ac Wysg.

Wedi priodi bedair gwaith, mae'n gadael ei wraig Seren, ei blant Georgina, Henriette ac Edward, a'i chwiorydd Sarah a Lucy.