Carcharu dyn am oes am drywanu ei dad i farwolaeth

  • Cyhoeddwyd
Stephen GallagherFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yn rhaid i Stephen Gallagher dreulio o leiaf 13 mlynedd a phedwar mis dan glo

Mae dyn wedi cael ei ddedfrydu i oes o garchar am drywanu ei dad i farwolaeth mewn "ymosodiad ffyrnig" yng Nghwmbrân.

Fe wnaeth Stephen Gallagher, 55, bledio'n euog i lofruddio ei dad, Thomas Gallagher, 76, ym mis Medi y llynedd.

Bydd yn rhaid i Gallagher dreulio o leiaf 13 mlynedd a phedwar mis dan glo cyn y bydd modd ystyried ei ryddhau.

Ond dywedodd y Barnwr Paul Thomas wrtho ei bod yn "bosib na fyddwch fyth yn cael eich rhyddhau".

Ffrae am gyflymder band eang

Clywodd y llys bod Gallagher wedi ymosod ar ei dad yn eu cartref ar Heol Cydweli ar fore 10 Medi 2019 yn dilyn ffrae am gyflymder band eang.

Dywedodd Mark Wyeth ar ran yr erlyniad ei fod yn "ymosodiad ffyrnig" a bod Thomas Gallagher "ddim wedi gallu amddiffyn ei hun".

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd teulu Thomas Gallagher mai ef oedd "curiad calon y teulu"

Roedd wedi cael ei drywanu sawl gwaith yn ei frest, ei wddf, ei gefn a'i ddwylo.

Fe wnaeth Gallagher ffonio'r heddlu a chyfaddef yr hyn oedd wedi digwydd, a dywedodd wrth swyddogion yn ddiweddarach ei fod "eisiau ef [ei dad] yn farw".

Mewn datganiad yn dilyn y digwyddiad fe ddywedodd teulu Thomas Gallagher mai ef oedd "curiad calon y teulu".

Wrth ddedfrydu dywedodd y Barnwr Thomas fod y diffynnydd wedi "ymosod ar ei dad oedrannus yn wyllt", gyda "dim trugaredd o gwbl".