Menyw 85 oed wedi ei thynnu o'r môr ym Mae Cemaes, Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
Bae CemaesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Fae Cemaes brynhawn Mawrth

Mae menyw 85 oed wedi cael ei thynnu o'r môr yn Ynys Môn.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Fae Cemaes am 14:48 brynhawn Mawrth.

Yn ôl adroddiadau, hi oedd yr unig berson yn y dŵr.

Aeth ambiwlans i'r safle yn ogystal â hofrennydd gwylwyr y glannau o faes awyr Caernarfon.

Fe gafodd tîm gwylwyr y glannau o Gemaes hefyd eu galw i'r safle.

Cafodd y fenyw ei thynnu o'r dŵr a'i chludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor mewn ambiwlans.

Nid yw'n glir beth yw cyflwr y fenyw.