Menyw oedrannus wedi marw yn y môr oddi ar Ynys Môn
- Cyhoeddwyd

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Fae Cemaes brynhawn Mawrth
Mae Crwner wedi cadarnhau fod dynes 81 oed wedi marw yn y môr oddi ar Ynys Môn.
Roedd Beverley Addyman yn dod o Wallasey, Cilgwri.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Fae Cemaes am 14:48 brynhawn Mawrth.
Aeth ambiwlans i'r safle yn ogystal â hofrennydd gwylwyr y glannau o faes awyr Caernarfon.
Cafodd Ms Addyman ei chludo i Ysbyty Gwynedd ond roedd hi wedi marw.
Mewn datganiad dywedodd Crwner y Gogledd Orllewin y bydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal er mwyn ceisio darganfod union achos ei marwolaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Awst 2020