Ymladd tân mewn adeilad ar gampws Prifysgol Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwasanaethau brys wedi bod ymladd tân yng Nghampws y Bae, Prifysgol Abertawe.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gorllewin a Chanolbarth Cymru fod pum dyfais diffodd tân ar y safle, gan gynnwys cynhwysydd dŵr ac ysgol uchel arbennig.
Dywedodd y gwasanaeth tân iddyn nhw gael eu galw toc wedi 18:00 i'r digwyddiad ar Ffordd Fabian.
Dywedon nhw fod y tân wedi ei gadw mewn adeilad tri llawr, a bod y llawr cyntaf, yr ail lawr a'r to yn llosgi.
Nid oes unrhyw adroddiadau bod pobl ar goll yn yr adeilad.
Mewn neges ar Twitter, dolen allanol, dywedodd y brifysgol bod y tân wedi dechrau yn yr adran beirianneg ac roedd swyddogion yn cydweithio gyda'r gwasanaeth tân.
Cafodd Campws y Bae ei agor yn 2015 ar gost o £450m, ac mae ar y ffin rhwng ardal Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Abertawe.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mai 2020