Cofio'r Parchedig Ddoctor Elfed ap Nefydd Roberts
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau'n cael eu rhoi i'r Parchedig Ddoctor Elfed ap Nefydd Roberts a fu farw yn 84 oed.
Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru wedi disgrifio'r pregethwr, awdur a darlledwr, oedd hefyd yn brifathro'r hen Goleg Diwinyddol yn Aberystwyth rhwng 1980 a 1997, fel "un o'n gweinidogion amlycaf".
Fe wasanaethodd fel gweinidog yn Egwlysi Presbyteraidd Llanelli, Tŵr Gwyn ym Mangor. Capel y Groes Wrecsam a Chapel y Berthen Licswm.
Bu farw yng nghwmni ei deulu ddydd Mercher yn ei gartref yn Abergele wedi cyfnod o salwch.
'Colled mawr ar ei ôl'
Dywed datganiad ar ran ei deulu: "Roedd yn awdur ar dros 25 o lyfrau yn y Gymraeg ar grefydd a diwinyddiaeth, yn ddarlledwr poblogaidd a chyson ar y radio a theledu.
"Yn gyn-olygydd ar sawl papur crefyddol gan gynnwys Y Goleuad ac hyd at ei fisoedd olaf yn gyfranwr rheolaidd. Bydd colled mawr ar ei ôl."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Eglwys Bresbyteraidd Cymru: "Gyda tristwch a gobaith yr ydym yn cofio y Parch Elfed ap Nefydd Roberts, un o'n gweinidogion amlycaf, cyn-brifathro ein Coleg Diwinyddol, Cyn-Lywydd ein Cymanfa, hanesydd ag awdur toreithiog.
Yn 2008 fe gafodd ei urddo'n Gymrawd Er Anrhydedd gan Brifysgol Cymru Bangor i gydnabod ei wasanaeth i'r astudiaeth o Ddiwinyddiaeth.
Mae'n gadael gwraig, Eiddwen, a dau o blant, Jonathan ac Elen Mai.