Ymestyn cynllun strydoedd Ceredigion hyd fis Hydref

  • Cyhoeddwyd
Arwyddion cau ffordd yn Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynllun yn gwneud hi'n haws i bobl gadw ar wahân yn unol â'r rheolau pellter cymdeithasol

Gallai'r cyfyngiadau ar rai o brif strydoedd pedair tref yng Ngheredigion fod mewn grym am gyfnod o dros 18 mis, yn ôl y cyngor lleol.

Cafodd parthau diogel eu creu yn Aberaeron, Aberystwyth, Aberteifi a Cheinewydd gan Gyngor Sir Ceredigion er mwyn caniatáu i fusnesau ailagor ac i sicrhau bod trigolion lleol ac ymwelwyr yn cadw pellter diogel oddi wrth ei gilydd.

Bydd y parthau'n parhau tan o leiaf fis Hydref, ac yn ôl y cyngor bydd y drefn yn cael ei hadolygu'n barhaus.

Yn y cyfamser mae cyflwyno gorchymyn traffig newydd yn golygu bod modd cau'r ffyrdd am gyfnodau o dros 18 mis o 24 Awst 2020.

Ymateb cymysg oedd yna i'r cynllun yn wreiddiol, gyda nifer o berchnogion busnesau yn anfodlon nad oedd y cyngor wedi ymgynghori gyda nhw cyn cyflwyno'r newidiadau.

Ond mae ymgynghoriad diweddar ymhlith trigolion y sir yn dangos bod yna gefnogaeth eang i'r cynllun bellach.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Ceredigion
Disgrifiad o’r llun,

Mae sawl caffi yn Aberystwyth nawr yn gosod byrddau a chadeiriau ar y strydoedd pan fo nhw ynghau

Yn ôl y cyngor roedd dros hanner y rheiny a gafodd eu holi yn dweud bod y cynllun yn cael effaith "dda iawn" ar y trefi.

Ond roedd nifer yn pryderu am ba mor hawdd oedd hi i bobl anabl a'r henoed gyrraedd canol y dre.

Mae'r cyngor yn dweud y byddan nhw nawr yn cyflwyno newidiadau i sawl stryd yn Aberystwyth, Aberteifi ac Aberaeron er mwyn hwyluso pethau i'r grwpiau dan sylw.

Fe gadarnhaodd y cyngor hefyd y byddan nhw'n cynnal ymgynghoriad pellach yn y dyfodol agos i weld a ddylid cynnal y parthau hyn eto yn y blynyddoedd sydd i ddod.