Ymateb cymysg i gynllun cau strydoedd trefi Ceredigion
- Cyhoeddwyd

Mae'r cynllun yn gwneud hi'n haws i bobl gadw ar wahân yn unol â'r rheolau pellter cymdeithasol
Mae 'na ymateb cymysg yng Ngheredigion ar ôl i strydoedd mewn pedair tref gael eu cau i draffig er mwyn caniatáu mwy o le i ymwelwyr a siopwyr gadw pellter cymdeithasol oddi wrth ei gilydd.
Mae'r cyngor wedi creu 'parthau diogel' yn Aberystwyth, Aberaeron, Cei Newydd ac Aberteifi trwy gau ffyrdd i gerbydau rhwng 11:00 a 18:00.
Mae Cyngor Ceredigion yn dweud pe na bai wedi creu lle ar gyfer cerddwyr yn unig fe fyddai palmentydd cul y trefi wedi gwneud cadw pellter cymdeithasol yn amhosibl, yn enwedig gyda nifer cynyddol o ymwelwyr yn dod i'r trefi dros yr haf.
Mewn datganiad dywedodd Cyngor Ceredigion ei fod am greu "trefi diogel a chroesawgar i bobl ddod i siopa a mwynhau.
'Angen addasu'
"Wrth i gyfyngiadau'r cyfnod clo gael eu llacio'n araf yn y sir, a gan fod y gofynion o ran cadw pellter cymdeithasol yn parhau i fod yn bwysig, mae angen addasu'r trefi oherwydd rhesymau'n ymwneud ag iechyd y cyhoedd.
"Mae Ceredigion wedi bod yn llwyddiannus iawn yn y frwydr yn erbyn lledaeniad y coronafeirws, a hoffai i'r llwyddiant hwn barhau er lles ei dinasyddion."

Ond mae rhai busnesau wedi beirniadu'r mesurau - gan ddweud y gallen nhw arwain at ostyngiad mewn masnach, a doedd Cyngor Ceredigion ddim wedi ymgynghori gyda nhw ymlaen llaw.
Mae Cynthia Binks yn berchen ar Clare Wools ar stryd fawr Aberystwyth. Dywedodd: "Dw i ddim yn hapus iawn achos mae'r peiriannau gwinio 'dw i'n gwerthu bach yn drwm i bobl gerdded gyda nhw lawr i'r maes parcio."
Mae llefydd parcio - gan gynnwys sawl un ar gyfer pobl anabl - tu fas i siop Cynthia.
Dywedodd: "Mae lle parcio yn groes yr heol ar ôl un o'r gloch am hanner awr, a llefydd am awr yn Baker Street ond does dim ar gael nawr ar ôl 11 o'r gloch. Mae rhai pobl yn hoffi fe ond 'dw i ddim."

Mae cwsmeriaid fel arfer yn gallu parcio ger siop y cigydd Rob Rattray a chasglu archebion rhag blaen
Mae siopau eraill hefyd yn teimlo effaith y parthau diogel.
Yn ystod y cyfnod clo mae'r cigydd Rob Rattray wedi bod yn gweithredu gwasanaeth clicio a chasglu, gyda chwsmeriaid yn archebu ar-lein ac yna'n parcio tu fas i'w siop i godi'r archeb.
Dyw hyn ddim yn bosibl unwaith y bydd y ffyrdd ar gau, ond mae Mr Rattray'n deall y rheswm dros gyflwyno'r mesurau.
"Mae pobl wedi arfer parcio fan hyn ar y stryd a dod draw i moyn eu cig - mae'r 'click and collect' wedi gweithio'n ofnadwy o dda," meddai.
"Wi'n gweld y rheswm, achos pan mae pobl yn ciwio tu fas y siop mae pobl eraill yn gwthio heibio iddyn nhw. A fel mae e nawr maen nhw'n gallu cadw ar wahân ac mae eisiau gwneud hynny achos ni wedi bod yn saff iawn yng Ngheredigion tan nawr a fel 'na mae eisiau bod."

Mae atal cerbydau'n galluogi busnesau fel caffi Mikey's i ddefnyddio'r gofod tu allan
Ond dywedodd Hannah Davies, sy'n gweithio yng Nghaffi Mikey's, fod y parth diogel yn dda i'r busnes.
"Mae'n dda iawn achos ni'n gallu cael byrddau tu allan nawr - saith bwrdd ar y ffordd, ond o'r blaen dim ond dau fwrdd oedd ar y pafin. Mae e tipyn bach yn continental a 'dw i'n hoffi fe."
Mae parthau diogel hefyd yn Aberaeron, Cei Newydd ac Aberteifi. Cawson nhw eu cyflwyno ddydd Llun 13 Gorffennaf ac yn ystod yr wythnos gyntaf roedd llawer o ddryswch a dicter, yn enwedig ymhlith perchnogion busnes yn y trefi sy'n dweud nad oedden nhw wedi cael gwybod yn iawn beth oedd yn digwydd, nac wedi cael amser i baratoi ar gyfer y newidiadau.

Roedd pryder y byddai rhai o brif strydoedd y sir yn rhy gul i ymdopi â llawer o bobl wedi i ymwelwyr ddychwelyd
Dywedodd y Cynghorydd Elizabeth Evans, sy'n cynrychioli Aberaeron ar Gyngor Ceredigion, fod pethau wedi setlo i lawr nawr a bod angen i bobl barchu'r rheolau pellter cymdeithasol o fewn y parthau diogel.
"Mae'n rhybudd mae'n rhaid i ni weithio arno fe gyda perchnogion y busnesau," meddai, "fel bod lle ar gyfer social distancing. Mae'n rhaid gwneud ymdrech i gadw pellter.
"Mae'n balans - rhaid i ni wneud ymdrech i gadw pellter, ond hefyd rhaid i ni rhoi cyfle i'r busnesau, maen nhw wedi bod ar gau ers amser hir felly rhaid iddyn nhw gael y cyfle i ddod mas."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2020