Anaf i ferch bump oed wedi gwrthdrawiad ffordd
- Cyhoeddwyd
Mae merch fach bum mlwydd oed wedi cael ei chludo i'r ysbyty mewn hofrennydd yn dilyn gwrthdrawiad ffordd yng Ngwynedd.
Cafodd ei chludo am driniaeth yn Ysbyty Plant Alder Hey, Lerpwl wedi'r digwyddiad yn Y Bermo ddydd Iau.
Cafodd yr heddlu eu galw gan y gwasanaeth ambiwlans i stad dai Pentre Bach am 17:45 wedi adroddiad fod plentyn wedi bod mewn gwrthdrawiad â char.
Mae'r Sarjant Raymond Williams o Uned Plismona'r Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru'n apelio am wybodaeth gan unrhyw un allai fod wedi bod yn dyst i'r digwyddiad.
Mae modd rhannu gwybodaeth trwy ffonio 101 neu ar-lein gan ddyfynnu'r cyfeirnod 20000485267.