Datblygu prawf gwahanol am imiwnedd i coronafeirws

  • Cyhoeddwyd
Dr James HindleyFfynhonnell y llun, Indoor Biotechnologies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr James Hindley yn gobeithio y gall ei gwmni helpu i ddatblygu brechlyn

Mae cwmni o Gaerdydd wedi datblygu prawf ar gyfer yr hyn a elwir yn gelloedd T coronafeirws - sydd o bosib yn gallu darparu imiwnedd mwy hirdymor i'r feirws na gwrthgyrff.

Mae'r corff yn datblygu celloedd T pan yn brwydro yn erbyn haint, ac maen nhw'n gallu datblygu mwy o wrthgyrff os ydy person yn cael yr haint eto.

Fe fyddai hyn yn golygu bod y system imiwnedd yn cofio sut i frwydro yn erbyn Covid-19 hyd yn oed ar ôl i'r gwrthgyrff gwreiddiol ddiflannu.

Mae cwmni Indoor Biotechnologies yn gobeithio y bydd y prawf yn help i ddatblygu brechlyn.

Maen nhw wedi derbyn bron i £50,000 mewn nawdd gan Innovate UK - cynllun ymchwil sydd wedi'i gefnogi gan Lywodraeth y DU.

Pobl ag imiwnedd am gyfnod hirach?

Fe wnaeth treialon y cwmni ddarganfod bod rhai pobl oedd wedi cael prawf positif am coronafeirws yn cael prawf negatif am wrthgyrff.

Ond fe wnaeth rhai o'r rheiny gael prawf positif am gelloedd T, sy'n golygu y gallai mwy o bobl na'r disgwyl fod ag imiwnedd, ac am gyfnod hirach.

Mae'r cwmni wedi profi cannoedd o bobl sydd wedi cael prawf positif am coronafeirws yn y gorffennol i weld os ydyn nhw wedi datblygu celloedd T.

Maen nhw'n gweithio gydag Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd ar y prawf, a nawr yn dechrau trafod sut allan nhw helpu gyda datblygwyr brechlynnau a chyrff iechyd cyhoeddus.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cwmni wedi profi cannoedd o bobl sydd wedi cael prawf positif am coronafeirws

Dywedodd cyfarwyddwr gweithredol Indoor Biotechnologies, Dr James Hindley: "Mae llawer o'r ffocws hyd yn hyn wedi bod ar wrthgyrff - mae hynny'n bwysig am eu bod yn rhoi rhyw gof i'n system imiwnedd - ond mae celloedd T yr un mor bwysig."

Ychwanegodd Dr Hindley, wnaeth ei ddoethuriaeth ar gelloedd T: "Maen nhw'n gallu byw am amser hir ar ôl i rywun gael ei heintio.

"Dydyn ni ddim yn gwybod am faint y byddan nhw'n para gyda'r feirws yma, ond fe allai fod am nifer o flynyddoedd.

"Dyna sail brechlyn a datblygu brechlynnau."

Dim ond llond llaw o labordai ar draws y byd sy'n gallu profi am gelloedd T, ac yn ôl Dr Hindley mae hi'n broses "llafurus" sydd angen peiriannau cymhleth.

Ar hyn o bryd mae'r cwmni yn canolbwyntio ar helpu gyda datblygu brechlyn, ond dywedodd Dr Hindley y gallai'r prawf gael ei ddefnyddio fel prawf mwy sensitif na phrofion gwrthgyrff.