Imiwnedd yn erbyn coronafeirws: Beth sy'n bosib

  • Cyhoeddwyd
BrechlynFfynhonnell y llun, Pornpak Khunatorn

Mae'r rheolau pellhau cymdeithasol mewn lle er mwyn brwydro yn erbyn lledaeniad y feirws. Mae arwyddion cynnar o wledydd eraill yn dangos bydd y rheolau yma yn helpu i leihau nifer yr achosion newydd.

Yr hyn nad yw'n amlwg eto yw cynllun y Llywodraeth o ran codi'r mesurau yma yn y pen draw, oherwydd mai'r unig ffordd wirioneddol o atal pobl rhag mynd yn sâl ar ôl codi'r mesurau yw trwy ddatblygu imiwnedd yn erbyn y feirws, megis trwy ddefnyddio brechlyn.

Beth yw brechlyn?

Sylwedd sy'n cael ei ddefnyddio i ysgogi system imiwnedd yw brechlyn. Mae'n defnyddio feirws anweithredol neu sydd wedi'i ladd, felly gall y system imiwnedd gydnabod y feirws ond ni all y feirws achosi unrhyw niwed.

Mae'n gweithio trwy ysgogi ymateb imiwn naturiol y corff, gan luosi nifer y celloedd gwaed gwyn sy'n bresennol yn y corff, sy'n ymladd yn erbyn y feirws.

Mae hefyd yn cynhyrchu celloedd cof sy'n cofio'r feirws hwnnw. Felly os fydd y person yn cael heintio gan yr un feirws rhywbryd eto, bydd y corff yn barod i ymladd ac yn gallu cael gwared ar y feirws yn llawer cynt; mae'r person hwn bellach yn imiwn.

Mae'r ymateb imiwn y mae brechlyn yn ei annog yn hollol naturiol a dyna beth sy'n digwydd fel arfer pan fyddwn ni'n cael ein heintio gyda rhywbeth.

Brech yr ieir, er enghraifft. Os gawsoch chi eich heintio unwaith fel plentyn a mynd yn sâl, yna mae'ch system imiwnedd wedi cael ei ysgogi i ymladd yn erbyn yr haint. Mae eich system imiwnedd hefyd wedi creu celloedd cof yn erbyn yr haint, sydd yn eich gwneud yn imiwn i'r afiechyd ac yn eich amddiffyn rhag mynd yn sâl yn y dyfodol. Hefyd, pe bai rhywun yn cael ei frechu rhag brech yr ieir, ni fydd byth yn gallu mynd yn sâl ohono.

Dyma beth mae gwyddonwyr yn ceisio ei ddatblygu yn erbyn coronafeirws.

Brechlyn coronafeirws

Nes i'r pandemig presennol ddigwydd, roedd gwyddonwyr yn meddwl mai ferws influenza fyddai'n achosi'r pandemig mawr nesaf. Roedd hyn yn golygu felly fod ymchwil i ddatblygu brechlyn yn erbyn coronafeirws yn brin ar ddechrau'r achos cyfredol.

Diolch byth felly am ymdrechion cynnar gwyddonwyr yn China i ddatgelu cod genetig y coronafeirws newydd hwn, SARS-CoV-2. Mae'r ymchwil i'r maes yma wedi cynyddu momentwm yn sylweddol ers hyn.

Mae gwyddonwyr eisoes wedi nodi bod SARS-CoV-2 yn rhannu 82% o'i god genetig gyda SARS-CoV a 50% gyda MERS-CoV, dau achos blaenorol o coronafeirws. Felly, mae'n bosib defnyddio brechlynnau a oedd wrthi'n cael eu datblygu ar gyfer rhain i frwydro yn erbyn yr un presennol yma.

Cafodd y prawf dynol cyntaf ar gyfer brechlyn ei gyhoeddi ym mis Mawrth gan wyddonwyr yn Seattle, ac mae gwyddonwyr o Awstralia wedi dechrau profion cyn-glinigol ar anifeiliaid, sydd yn profi dau frechlyn posib arall.

Ffynhonnell y llun, CSIRO
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwyddonwyr yn Awstralia yn cynnal profion ar ddau fath posib o'r brechlyn yn erbyn COVID-19

Er bod y datblygiadau newydd hyn yn obeithiol, y gwir yw y gall datblygu brechlyn gymryd hyd at 18 mis cyn ei fod yn ddiogel ac yn barod i'w ddefnyddio. Dyma pam fod llywodraethau'n ceisio cyflymu'r broses.

Imiwnedd torfol

Ym mis Mawrth honnwyd bod Llywodraeth y DU yn gobeithio caniatáu i'r feirws basio trwy'r boblogaeth gyfan fel ein bod yn caffael imiwnedd torfol (herd immunity). Cafodd y strategaeth yma ei roi o'r neilltu gan y byddai wedi bod yn ormod o bwysau ar y GIG.

Serch hynny, gall imiwnedd torfol chwarae rôl o hyd tuag at frwydro yn erbyn yr achos presennol.

Pan mae digon o bobl mewn cymuned yn imiwn i afiechyd, mae'n ei gwneud hi'n anoddach i'r afiechyd hwnnw ledaenu. Er enghraifft, os yw rhywun â brech yr ieir wedi'i amgylchynu gan bobl sy'n imiwn i frech yr ieir, ni all y clefyd drosglwyddo i unrhyw un yn hawdd a bydd yn diflannu'n gyflym eto.

Mae'r strategaeth yma yn berthnasol ar gyfer brechlynnau hefyd - y mwyaf o bobl sy'n cael eu brechu yn erbyn coronafeirws, yr arafaf y gall y feirws ledaenu.

Beth alla i ei wneud nes bod brechlyn yn barod?

Mae brechlynnau yn atal heintiau, a'r ffordd orau o wneud hynny ar hyn o bryd yw hylendid da.

Y peth pwysig arall i'w wneud yw cadw'ch system imiwnedd yn iach, trwy gadw'ch hun yn iach, wneud ymarfer corff a bwyta diet cytbwys.