Cyhuddo bachgen 16 oed wedi 'achos saethu' Penarth

  • Cyhoeddwyd
Penarth
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr heddlu wrth bobl i gadw draw o'r ardal ddydd Iau

Mae bachgen 16 oed wedi cael ei gyhuddo o nifer o droseddau yn dilyn achos o saethu honedig ym Mhenarth.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Redlands Road ychydig cyn 14:00 ddydd Iau.

Roedd adroddiadau bod gwn wedi cael ei saethu yn yr ardal.

Ni chafodd neb eu hanafu'n ddifrifol.

Dywedodd Heddlu De Cymru fod swyddogion arfog wedi eu danfon mewn ymateb "fel cam rhagofal".

Mae'r cyhuddiadau'n erbyn y bachgen yn cynnwys bod ym meddiant gwn dynwared mewn man cyhoeddus, ymosod ac ymosod hiliol.

Bydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Sadwrn.

Mae tri arall - bachgen 16 oed o Benarth, merch 16 oed a dyn 20 oed o Gaerdydd - wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Roedden nhw i gyd yn adanbod ei gilydd, meddai Heddlu'r De, sy'n apelio i'r cyhoedd am wybodaeth.