Yr athletwr Paralympaidd, Jacob Thomas wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Jacob ThomasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Jacob Thomas ymddeol o boccia yn 2016, ag yntau yn bencampwr Prydain ar y pryd

Mae Jacob Thomas, wnaeth gynrychioli Prydain yng nghamp boccia yn y Gemau Paralympaidd, wedi marw yn 25 oed.

Fe wnaeth Thomas, o bentref Bethesda, Sir Benfro, gynrychioli Prydain yn y cystadlaethau tîm ac unigol yng ngemau Llundain yn 2012.

Bu'n bencampwr Prydain yn nosbarth BC3 boccia ar bedwar achlysur, ac fe enillodd fedalau arian ac efydd ym Mhencampwriaethau'r Byd yn 2014.

Fe benderfynodd ymddeol o'r gamp yn 2016, ag yntau yn bencampwr Prydain ar y pryd.

Cafodd Thomas ddiagnosis o dystroffi cyhyrol Duchenne yn fuan wedi iddo gael ei eni - cyflwr niwro-gyhyrol sy'n cyfyngu ar fywydau pobl.

Dywedodd corff Chwaraeon Cymru bod Thomas yn "athletwr ysbrydoledig" ac y bydd "colled enfawr" ar ei ôl.