Casnewydd i groesawu'r Elyrch yng Nghwpan y Gynghrair
- Cyhoeddwyd

Fe fydd gêm ddarbi Gymreig yn rownd gyntaf Cwpan Carabao, neu Cwpan y Gynghrair, yn nhymor 2020/21.
O'r tri thîm o Gymru yn y gystadleuaeth, enw Caerdydd oedd y cyntaf o'r het, ac fe fyddan nhw'n teithio i wynebu Northampton Town oddi cartref.
Y nesaf o'r het oedd Casnewydd - gêm gartref iddyn nhw felly - ond yn syth wedyn, daeth eu gwrthwynebwyr yn y rownd gyntaf, sef Abertawe.
Bydd mwyafrif gemau'r rownd gyntaf yn cael eu cynnal ar benwythnos 5 Medi, ond os ydy'r ddau dîm yn cytuno ar ddyddiad mae modd iddyn nhw chwarae ei gilydd cyn y toriad rhyngwladol ar 31 Awst.
Bydd union ddyddiad y ddwy gêm felly yn cael ei gadarnhau maes o law.