Hiraethu am y bywyd wedi'r cwis Zoom...

  • Cyhoeddwyd
Fflur EvansFfynhonnell y llun, Fflur Evans

Mae hi wedi bod yn fisoedd hir o aros yn y tŷ i Fflur Evans, yn hiraethu am gael mynd ar noson allan go iawn.

Dydi cwis Zoom ddim cweit yr un peth â'r wefr o fod mewn clwb nos chwyslyd, meddai...

Ma'i newydd droi'n hanner nos. Ti newydd gyrraedd ffrynt y ciw i fynd mewn i'r clwb ar ôl cwympo mas 'da rhyw foi o'dd yn trio gwthio mewn a chwarae sawl rownd o 'spot the B-list celeb Cymraeg'. Ac ar ôl aros am awr i fynd mewn, dyma'r bouncer yn ynganu'r frawddeg mwya' gogoneddus a fuodd yn yr iaith Saesneg erioed: "Go on, in you go..."

Os oes 'na wefr yn fwy na'r un gei di wrth gerdded mewn i dy hoff glwb, dwi'n sicr heb ei phrofi. Ti'n cal dy stamp, yn trio perswadio boi'r 'stafell gotiau i roi 2-for-1 deal i ti (heb fawr o lwyddiant) ac yna, ti'n camu mewn…

Ma'r lle yn llawn, ma'n afiach o dwym, ma'r ciw i'r bar yn hirfaith, ti 'di osgoi cyswllt llygad 'da tri pherson dwyt ti ddim eisiau gweld yn barod, ond s'dim ots - mae e i gyd werth e.

Ar ôl i ti gael dy ddiod(ydd), ti'n 'neud dy ffordd at y dancefloor yn sgrechian geiriau Crazy Chick gan Charlotte Church, yn hapus dy fyd.

Oes, bobl, credwch neu beidio, ma' dros bedwar mis wedi bod ers i ni gyd fod am noson mas go iawn. Ac er bo' 'na bethau pwysicach yn y byd na rhoi dy gladrags 'mlaen a mynd am gwpwl o goctêls, mae'n rhan bwysig o fywydau cymdeithasol llawer ohono' ni.

Ffynhonnell y llun, Fflur Evans
Disgrifiad o’r llun,

Fflur a'i ffrindiau yn eu 'gladrags' yn barod am noson allan

Diwedd fy mywyd cymdeithasol?

Ddiwedd mis Mawrth, ar ôl sylweddoli bysen i'n styc yn y fflat am fisoedd, o'n i'n poeni gymaint am fod yn bored a diflasu ar fywyd yn locdown. O'dd y tafarndai 'di cau, y caffis, y bwytai, y clybiau nos, y gym… O'n i wir yn poeni mai dyma fyddai diwedd fy mywyd cymdeithasol. Ai eistedd ar y soffa yn gwylio sitcoms ar Netflix fyse fy ffawd o hyn ymlaen?

Ac yna'n sydyn, daeth fy ngwaredwr: Y Cwis Zoom. Ar ddechrau'r cyfnod clo, o'n i'n treulio bob prynhawn Sadwrn yn coluro fel tasen i'n cael mynd mas i ryw barti crand (nes i hyd yn oed wisgo fake tan ar gyfer un cwis, sy'n drist, braidd).

O'dd e'n wych - pawb yn cael cwpwl o ddrincs, pawb yn gystadleuol, pawb yn cymryd y mic mas o un o'r bois achos bod e'n meddwl mai Vienetta o'dd prifddinas Awstria - dyma oedd uchafbwynt yr wythnos.

Aeth popeth yn rhithiol - gigs, seremonïau gwobrwyo, gweithdai cynganeddu - you name it, ac o'dd rhyw fersiwn ohono fe'n bodoli ar-lein. Pam bo' fi 'di poeni gymaint am fod yn bored dros yr haf, gwedwch? O'dd fy mywyd cymdeithasol i mor fywiog ag erioed!

O'dd mantais hefyd i'r ffaith 'mod i'n gallu mwynhau bob dim o glydwch fy soffa - o'n i ddim yn cwympo mas 'da idiots mewn ardaloedd ysmygu, o'n i ddim yn gorfod talu pymtheg punt am ddau jin lemonêd, ac o'n i ddim yn dihuno gyda llond handbag o ofidiau am y noson gynt. Result!

Zoom ddim cweit yn cymharu...

Ond, yn anochel, diflannodd fy mrwdfrydedd rhywbryd yng nghanol mis Mai. O'n i'n all Zoomed-out.

O'n i ddim ishe paentio gwên (a thri haen o foundation) 'mlaen; o'n i ddim eisiau trio dyfalu pwy oedd Prif Weinidog Uzbekistan neu enillydd Eurovision 1984; o'n i ffaelu bod yn bothered i rith-gymdeithasu rhagor.

O'n i'n teimlo'n wael am fod yn bwdryn ac am beidio ymuno â'r hwyl, ond o'dd e jyst ddim r'un peth â noson mas go iawn. Wyt, ti'n gallu blastio Madonna a dawnsio fel ffŵl rownd y gegin gymaint ag wyt ti ishe, ond dyw e ddim cweit yn cymharu 'da hynt a helynt actual noson mas, odyw e?

Ffynhonnell y llun, Fflur Evans
Disgrifiad o’r llun,

Roedd hyd yn oed y Steddfod yn gorfod bod yn rhithiol eleni, felly doedd yna ddim cyfle i yfed cwrw o wydrau plastig tra'n sefyll mewn cae mwdlyd...

Ac er bod tafarndai a bwytai'n dechrau ailagor erbyn hyn, ma'r syniad o eistedd mewn pyb yng nghanol y pandemig 'ma'n dal i 'neud fi deimlo bach yn anghyfforddus.

Wrth gwrs, gallen i gwrdd â ffrindiau yn eu gerddi nhw neu mewn beer garden, ond fi'n credu fydden i'n poeni am gadw at y rheol 2 fetr gymaint, fysen i ffaelu ymlacio'n iawn. A hyd yn oed tasen i'n gallu mynd am gwpwl o beints, sai' cweit yn siŵr os fysen i'n gwybod beth i 'weud neu shwd i gymdeithasu gyda phobl yn y Byd Go Iawn rhagor.

'Falle ei fod e'n haws sticio 'da'r busnes Zoom 'ma am sbel fach 'to - ti methu rhoi pobl ar mute yn y pyb wedi'r cwbl!

Ond os ydych chi, fel fi, yn ysu am gael eich bywyd cymdeithasol 'nôl, peidiwch a digalonni. Rhywbryd yn y dyfodol, gewn ni gyd gwrdd unwaith 'to (sori, fi'n dechre swnio gormod fel y gân Vera Lynn 'na nawr).

Ond tan hynny, dwi off i ail-wylio Friends am y chweched tro eleni, a breuddwydio am jagerbombs, smoke machines, a bwyta chicken nuggets yng nghefn tacsi am bedwar o'r gloch y bore.

Rhyw ddydd, bobl. Rhyw felys ddydd…

Hefyd o ddiddordeb: