Caroline Jones yn gadael grŵp Plaid Brexit Senedd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Caroline Jones
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Caroline Jones yn gyn-arweinydd UKIP cyn gadael y blaid honno yn 2018

Mae Aelod Annibynnol o Senedd Cymru, Caroline Jones wedi datgan nad yw bellach am barhau i gefnogi grŵp Plaid Brexit yn Senedd Cymru.

Mae'n gwneud hynny ers gadael Plaid UKIP yn 2018 gan ei bod yn cefnogi Brexit, ac ar ddeall fod Plaid Brexit yn cytuno â hi bod angen diwygio'r corff datganoledig ym Mae Caerdydd.

Ond nawr mae'n dweud fod y blaid yn "amherthnasol" ac mae'n anghytuno ag awydd y blaid erbyn hyn i geisio diddymu Senedd Cymru.

Cyn ymuno ag UKIP, fe safodd Ms Jones fel Ceidwadwr yn Etholiad Cyffredinol 2010 ac yn etholiad Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru yn 2012.

Dywedodd y bydd yn parhau fel aelod annibynnol amhleidiol tan etholiad nesaf Senedd Cymru "nawr fod Brexit wedi'i gyflawni, a Phlaid Brexit yn nodi eu bod yn erbyn datganoli ac eisiau diddymu'r Senedd".

'Gweledigaeth fwy positif'

Dywed datganiad ar ran AS rhanbarthol Gorllewin De Cymru fod "negyddoldeb ysgubol [Plaid Brexit] at ddatganoli yn anghyson ag awydd [Ms Jones] i wella gwleidyddiaeth ddatganoledig Cymru".

"Mae hi nawr yn galw am weledigaeth fwy positif sy'n rhoi anghenion, dyheadau a lles pobl rhanbarth Gorllewin De Cymru... ar flaen ac yng nghanol gwleidyddiaeth Cymru".

Dywedodd Ms Jones ei fod wedi cefnogi'r blaid yn y lle cyntaf "ar y ddealltwriaeth fod Plaid Brexit yn rhannu fy marn y dylid diwygio'r llywodraeth ddatganoledig fel ei fod yn gweithio'n well i'r bobl rwy'n eu cynrychioli".

Ychwanegodd: "Agwedd Plaid Gwrth-Ddatganoli yw eu hagwedd bresennol sydd yn groes i fy egwyddorion.

"Rwy'n credu nad yw San Steffan yn darparu'r holl atebion, a thra bod ffordd bell i fynd cyn bod datganoli yng Nghymru'n wirioneddol gynrychioli pobl Cymru mae'n rhywbeth y mae mwyafrif pobl ein gwlad wedi pleidleisio drosto sawl tro.

"Rwyf felly'n anrhydeddu'r penderfyniad democrataidd yna ac yn dymuno sicrhau fod datganoli'n gweithio i bobl Cymru yn hytrach na'i danseilio."