Gêm gyfartal i Forgannwg a Sir Gaerloyw yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Chris CookeFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd y capten Chris Cooke i sgorio 59 rhediad heb fod allan ar y diwrnod olaf

Llwyddodd Morgannwg i achub gêm gyfartal yn erbyn Sir Gaerloyw ar y diwrnod olaf yng Nghaerdydd ddydd Mawrth.

Roedd yr ymwelwyr yn edrych fel eu bod am sicrhau'r fuddugoliaeth wrth iddyn nhw gymryd wyth o wicedi Morgannwg erbyn amser te.

Ond llwyddodd y capten Chris Cooke (59 heb fod allan) a Timm van der Gugten (30 heb fod allan) i sefydlogi'r llong i'r Cymry.

Oherwydd bod y glaw wedi cyfyngu ar y chwarae dros y deuddydd cyntaf, gêm gyfartal oedd wastad y canlyniad mwyaf tebygol.

Morgannwg v Sir Gaerloyw - sgôr terfynol

Morgannwg - batiad cyntaf = 116

ail fatiad = 197-8

Sir Gaerloyw - batiad cyntaf = 181

Dim ail fatiad

Gêm gyfartal