Ceir wedi'u difrodi gan goed ym Mhortmeirion dros nos

  • Cyhoeddwyd
CeirFfynhonnell y llun, Nicola Williams
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd o leiaf wyth o geir eu difrodi gan y coed

Mae nifer o geir wedi cael eu difrodi gan goed wnaeth ddisgyn ym Mhortmeirion dros nos.

Fe wnaeth gwyntoedd cryfion ddod â dwy goeden i lawr, gan achosi difrod i o leiaf wyth o geir nos Fercher.

Mae cwmni Portmeirion wedi cael cais am sylw.

Dywedodd Caroline Keenan, sydd ar wyliau yn y pentref o Sir Caer gyda'i dau o blant, bod ei char hi yn un o'r rheiny gafodd eu difrodi.

Ffynhonnell y llun, Rob Fennah
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth gwyntoedd cryfion ddod â dwy goeden i lawr ar y ceir

"Fe wnes i glywed y storm yn y nos," meddai.

"Fe wnaethon nhw fy ngalw i o'r dderbynfa a dweud bod coed mawr wedi dod i lawr yn y nos a bod wyth o geir wedi cael eu difrodi.

"Rydyn ni i fod i fynd adref bore 'fory, ac wedi bod yn ceisio sortio rhywbeth o ran cael car a sortio'r yswiriant.

"Ro'n i'n meddwl mai mellt a tharanau oedd o, achos o'n i'n clywed sŵn mawr."

'Anrhefn'

Dywedodd Rob Fennah, o Gilgwri, oedd hefyd yn aros yn y pentref: "Fe wnaethon ni glywed larymau ceir yn mynd i ffwrdd pob hyn a hyn, a chlywed ychydig o synau eraill.

"Ond dwi'n synnu na wnaeth o fwy o sŵn.

"Wedi i ni ddeffro heddiw roedd o'n anrhefn - roedd y rhesiad o geir wedi cael eu difrodi'n llwyr.

"Pe bai wedi digwydd yn ystod y dydd, Duw a ŵyr be' allai fod wedi digwydd."