Pryderon teithio yn amharu ar gyfleoedd myfyrwyr dramor

  • Cyhoeddwyd
Myfyriwr ar leoliad dramorFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae ymchwil BBC Cymru wedi darganfod fod cannoedd o leoliadau dramor ar gyfer myfyrwyr prifysgol y tymor nesaf yn cael eu gohirio neu'u canslo'n llwyr oherwydd pryderon sy'n parhau ynghylch teithio rhyngwladol.

Mae llawer o fyfyrwyr sydd wedi dewis bwrw ymlaen gyda'u cyrsiau wedi cael gwybod mai nhw allai orfod talu er mwyn dychwelyd petai'r cyngor teithio Covid-19 yn newid ym mha bynnag wlad y maen nhw.

Bob blwyddyn mae tua 10% yr israddedigion sy'n astudio yng Nghymru'n astudio, gweithio neu wirfoddoli ar leoliadau dramor.

Roedd George Money Muter, myfyriwr Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth, am drefnu blwyddyn yn astudio yn yr Unol Daleithiau cyn i'r brifysgol yno ganslo ei holl gynigion i fyfyrwyr rhyngwladol.

Ffynhonnell y llun, George Muter
Disgrifiad o’r llun,

Mae George Muter yn ystyried pa opsiynau sydd ar ôl wedi'r siom o fethu cael mynd i America

"Mae'n amlwg yn wirioneddol siomedig," meddai. "Mae'n wirioneddol anodd cael blwyddyn yn America a threulio cyfnod yno'n byw neu'n gweithio.

"Byddai hyn wedi bod yn gyfle allweddol i fynd yno a chael y profiad yna.

"Rwyf wedi ystyried ceisio am interniaethau yno ond mae'n anodd eithriadol i'w cael. Does gen i ddim cynllun pendant ar y funud felly mae'n rhaid dechau meddwl am hynny."

Mae George wedi ystyried opsiynau eraill, fel treulio tymor y gwanwyn dramor yn unig neu deithio i wlad arall, ond penderfynodd mai newid cwrs gradd i un sydd ddim yn cynnwys blwyddyn dramor oedd orau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r pryderon am deithio tramor wedi arwain at drafferthion i nifer o fyfyrwyr

Mae myfyrwyr sy'n treulio cyfnod dramor 24% yn llai tebygol o fod yn ddi-waith ar ôl graddio, gan ennill £1,226 yn fwy bob blwyddyn ar gyfartaledd na chyfoedion na aeth dramor, yn ôl ffigyrau corff Universities UK.

Bydd cannoedd o fyfyrwyr fu'n rhaid dod adref yn ddirybudd ar ddechrau'r pandemig ym mis Mawrth ddim yn cael dychwelyd i gwblhau'r cyrsiau yno.

Ffynhonnell y llun, Maia Evans
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i Maia Evans adael Ffrainc yn ddirybydd ym mis Mawrth oherwydd y pandemig

Yn eu plith mae Maia Evans o Bort Talbot, sy'n astudio Ffrangeg ym Mhrifysgol Abertawe.

Bu'n rhaid gadael Ffrainc - ble roedd yn dysgu Saesneg fel rhan o'i gradd - ym mis Mawrth oherwydd yr argyfwng coronafeirws.

"Dewisais i'r cwrs oherwydd bod blwyddyn dramor yn rhan ohono," meddai.

"Fe wnaeth y brifysgol ein hannog i ddod adref oherwydd bod popeth mor gythryblus. Cafodd tri hediad eu canslo, roedd rhaid i mi eu trefnu i drïo dod adre, ac roedd yn anhrefn.

"Roedd mor, mor stressful. Ro'n i wedi cynhyrfu'n lan, drwy'r amser. Mae jest mor drist ei fod wedi dod i ben."

Ffynhonnell y llun, Iestyn Dallimore
Disgrifiad o’r llun,

Mae Iestyn Dallimore yn gresynu gorfod gadael Arizona cyn diwedd y 12 mis roedd wedi bwriadu bod yno

Mae Iestyn Dallimore o Gaerdydd yn fyfyriwr Astudiaethau Americanaidd ym Mhrifysgol Abertawe.

Roedd ar ganol cyfnod o flwyddyn yn Arizona pan darodd y pandemig, ac yn teimlo ei fod yn elwa'n fawr o'r profiad.

"Roeddwn yng nghanol yr holl ddiwylliannau gwahanol 'ma... ro'n i'n dysgu gymaint am y wlad a'r bobl," meddai.

"Fyswn i'n dwli cael mynd yn ôl ryw dro ond mewn gwirionedd, yn nhermau astudio dramor, fe chwythodd y peth ei blwc oherwydd y feirws.

"Rwy'n teimlo cefais i, falle, dri chwarter y profiad. Ro'n i'n cymryd rhan ym mhopeth, ond fe gafodd y rhan olaf un ei gymryd oddi arna'i."

'Sgiliau gwerthfawr a hanfodol i Gymru'

Yn ôl Dr Walter Ariel Brooks, rheolwr addysg y Cyngor Prydeinig yng Nghymru, mae astudio dramor yn rhoi sgiliau i fyfyrwyr "y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi'n fawr".

Mae'n dadlau fod datblygu'r fath sgiliau, a'r hyder trwy fentro byw mor bell oddi cartref, "yn hanfodol er lles Cymru yn yr adeg hanesyddol yma" fel bod "mwy a mwy o bobl ifanc yn mentro i'r byd a chreu'r cysylltiadau rhyngwladol hynny bydd Cymru ei hangen ar gyfer ei dyfodol".

Mae Dr Brooks yn poeni y bydd cyfyngiadau teithio Covid-19, o'i gyfuno ag effaith Brexit ddiwedd eleni, yn ei gwneud hi'n anodd i fyfyrwyr fynd dramor, yn enwedig rhai o deuluoedd llai cefnog.

Disgrifiad o’r llun,

Mae ymdrechion yn parhau i sicrhau cyfleoedd i fyfyrwyr Cymru

Dywedodd Claire Gorrara, Athro Ffrangeg ym Mhrifysgol Caerdydd a chadeirydd Cyngor Ieithoedd Modern Prifysgolion fod sefydliadau yn ceisio sicrhau fod myfyrwyr yn dal yn cael cyfleoedd i fynd dramor ac, os nad yw hynny'n bosib, ymchwilio i gyfleoedd ar-lein yn hytrach.

"Ein prif flaenoriaeth yw ceisio cael gymaint o fyfyrwyr â phosib yn eu gwlad ddewisol," meddai.

"Yn achos rhai myfyrwyr na all fynd i'r wlad honno i astudio yn syth, rydym yn cynnig cyfle i barhau i ddysgu mewn fformat cymysg - gweithio ar-lein, o bosib, gyda phrifysgol yn y wlad ble maen nhw'n dymuno astudio neu weithio gyda ni yn y DU."