Profiadau Cymry ifanc o Haf Dan Glo

  • Cyhoeddwyd
haf dan glo

Dros y pythefnos diwethaf, mae Cymru Fyw wedi bod yn clywed am brofiadau pobl ifanc o'r cyfnod diweddar.

Gyda chynlluniau ar gyfer addysg, gwaith a chymdeithasu wedi eu trawsnewid, mae haf 2020 wedi bod yn ansicr i lawer. Ond mae rhai hefyd wedi gwerthfawrogi'r cyfle i ddatblygu sgil newydd neu fod yng nghwmni teulu.

Fe ofynnon ni i bobl ifanc ar draws y wlad ffilmio eu hunain yn trafod cyfnod Covid-19 a'u gobeithion ar gyfer y misoedd nesaf.

Elain

Mae cymdeithasu yn bwysig i Elain ac mae hi'n edrych ymlaen at fynd i'r brifysgol ym mis Medi.

Er ei bod wedi cyfarfod pobl newydd drwy'r cyfryngau cymdeithasol, roedd hi'n siomedig nad oedd hi a'i ffrindiau ysgol wedi gallu mwynhau diwedd y tymor a mynd i'r prom.

Disgrifiad,

Haf Dan Glo: Profiad Elain

Zach

Mae Zach wedi bod yn aros am ei ganlyniadau TGAU, ac fe fydd yn mynd i ysgol newydd ym mis Medi. Mae wedi defnyddio'r cyfnod diweddar i ganolbwyntio ar ei ffitrwydd a chryfder ar gyfer y tymor rygbi newydd.

Disgrifiad,

Haf Dan Glo: Profiad Zach

Megan

Roedd Megan wedi gwerthfawrogi cael profiad gwaith gyda siop elusen dros yr haf. Mae hi hefyd wedi gwneud y mwyaf o'r cyfle i ddysgu theori gyrru, cyn troi yn 17 a chael gwersi dreifio ym mis Medi.

Disgrifiad,

Haf Dan Glo: Profiad Megan

Lois

Roedd Lois wedi bwriadu cymryd blwyddyn allan i deithio, ond mae'n rhagweld bydd yn rhaid i'w chynllun newid.

Er ei bod wedi gwerthfawrogi rhai agweddau o'r cyfnod clo, mae hi ychydig yn bryderus am ba swyddi fydd ar gael iddi oherwydd effaith economaidd Covid-19.

Disgrifiad,

Haf Dan Glo: Profiad Lois

Dyma fwy o brofiadau pobl ifanc o'r cyfnod:

Nid yw’r post yma ar Facebook yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Facebook
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
I osgoi neges facebook gan BBC Cymru Fyw

Caniatáu cynnwys Facebook?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Facebook Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
Diwedd neges facebook gan BBC Cymru Fyw

Hefyd o ddiddordeb: