Ffilmiau byrion gan bobl ifanc: Rhannu teimladau Haf Dan Glo
- Cyhoeddwyd
Mae Hedydd Ioan, 17, wedi sgriptio, ffilmio, ac actio yn ei ffilm fer
Mae Cymru Fyw wedi gofyn i dri o bobl ifanc greu ffilm i gyfleu'r cyfnod clo.
Daw'r gyntaf gan Hedydd Ioan, 17, o Benygroes, Gwynedd, sydd wedi sgriptio, ffilmio, ac actio mewn ffilm am anhawster cyfathrebu a chynnal perthynas oherwydd cyfyngiadau Covid-19.
Bydd y ffilmiau eraill, lle fydd pobl ifanc yn cyfleu profiadau eu Haf Dan Glo a'u gobeithion ar gyfer y dyfodol, yn cael eu cyhoeddi yn y bythefnos nesaf.

Mae Hedydd ar brentisiaeth gyda chwmni theatr Frân Wen
Dyweddodd Hedydd am ei ffilm: "Dwi'n teimlo fod y ffordd mae pobl ifanc yn cysylltu yn anhygoel o ddiddorol, a sut mae hynny yn effeithio ar ein bywydau ac yr y digwyddiadau a phrofiadau rydym yn cael.
"Yn ystod y cyfnod yma mae bob dim wedi cael ei wthio i'r eithaf ac fe benderfynais edrych ar y cysylltiad rhwng rhywun yn trio siarad a rhannu ei deimladau efo rhywun arall yn ganol y clo yma."


Hefyd o ddiddordeb: