Bwyty ym Mhenarth wedi mynd ar dân yn ddamweiniol

  • Cyhoeddwyd
The Deck
Disgrifiad o’r llun,

Roedd fflamau i'w gweld yn dod drwy do adeilad The Deck

Dywed y rhai sydd wedi bod yn archwilio tân mewn bwyty a oedd newydd agor ym Marina Penarth ei fod wedi mynd ar dân yn ddamweiniol.

Mae'n debyg fod The Deck yn brysur gyda staff a chwsmeriaid pan ddechreuodd y fflamau danio nos Wener.

Cafodd pobl eu tywys o'r bwyty, a wnaeth agor am y tro cyntaf rhyw bythefnos yn ôl.

Roedd pedair injan dân ar leoliad ac fe wnaeth Heddlu'r De ofyn i bobl osgoi'r ardal.

Roedd y pêl-droediwr Craig Bellamy yn arfer bod yn berchen ar y bwyty o dan yr enw Pier 64.

The Deck

Ddydd Sadwrn dywedodd penaethiaid y bwyty eu bod yn "siom enfawr iddyn nhw bod hyn wedi digwydd.

"Mae pawb," meddent, "wedi bod yn gweithio mor galed i ailagor y bwyty yn ddiweddar."

Penarth marinaFfynhonnell y llun, Craig Stephenson