Caerdydd: Merch, 15, wedi marw ar ôl digwyddiad yn Afon Rhymni
- Cyhoeddwyd

Yr heddlu ar leoliad ger Afon Rhymni nos Wener
Mae merch 15 oed wedi marw ar ôl digwyddiad mewn afon yng Nghaerdydd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 17:20 ddydd Gwener i adroddiadau fod merch yn yr afon yn Ball Lane, Llanrhymni.
Roedd yr heddlu a'r gwasanaethau tân ac ambiwlans yn delio â'r digwyddiad yn Afon Rhymni, ger caeau chwarae'r brifysgol.
Am 18:40 cafodd y ferch ei chanfod ond er gwaethaf "ymdrechion gorau'r gwasanaethau brys", bu farw.