Batio arwrol de Lange yn rhoi gobaith i Forgannwg
- Cyhoeddwyd
Mae batio arwrol gan Marchant de Lange a Dan Douthwaite wedi rhoi gobaith am fuddugoliaeth i Forgannwg yn Northampton.
Fe ddechreuodd Sir Northampton y trydydd diwrnod ar sgôr o 288-5 wrth iddyn nhw ymateb i gyfanswm batiad cyntaf Morgannwg o 259.
Ni lwyddodd y tîm cartref i ychwanegu llawer o rediadau yn y bore, gan gael eu bowlio allan am 332 - mantais o 73 rhediad dros y Cymry.
Ond cafodd Morgannwg ddechrau trychinebus i'w hail fatiad, gan golli pum wiced am 16 o rediadau yn unig.
Roedden nhw ar sgôr o 60-8 cyn i fatio gwych Douthwaite (86) a de Lange (113) sefydlogi'r llong ac arwain yr ymwelwyr at gyfanswm o 261 yn eu hail fatiad.
Roedd hynny'n golygu mai 189 oedd Northants ei angen yn eu hail fatiad nhw er mwyn ennill, a llwyddon nhw i gyrraedd sgôr o 62-1 erbyn diwedd y chwarae.
Mae hynny'n golygu eu bod angen 127 o rediadau er mwyn ennill ar y diwrnod olaf ddydd Mawrth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Awst 2020
- Cyhoeddwyd22 Awst 2020