Cymru'n galw Neco Williams a Ben Cabango am y tro cyntaf

  • Cyhoeddwyd
Neco Williams a Ben CabangoFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Neco Williams a Ben Cabango wedi chwarae i dimau ieuenctid Cymru yn y gorffennol

Mae Neco Williams yn un o ddau wyneb newydd yng ngharfan Cymru wrth i Ryan Giggs baratoi ar gyfer gemau Cynghrair y Cenhedloedd fis nesaf.

Fe allai amddiffynnwr Lerpwl, 19, ac amddiffynnwr Abertawe Ben Cabango, 20, ennill eu capiau cyntaf yn y gemau yn erbyn Y Ffindir a Bwlgaria.

Mae'r ymosodwr Hal Robson-Kanu hefyd yn dychwelyd i'r garfan ar ôl gwyrdroi ei benderfyniad i ymddeol o bêl-droed rhyngwladol.

Bydd Gareth Bale ac Aaron Ramsey yn ymuno gyda'r garfan hefyd wrth i ansicrwydd ynglŷn â'u dyfodol nhw gyda'u clybiau barhau, tra bod lle hefyd i Ashley Williams a Chris Gunter er bod y ddau heb glwb ar hyn o bryd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Hal Robson-Kanu - un o sêr Euro 2016 - yn ôl yn y garfan am y tro cyntaf ers dros ddwy flynedd

Ond dydy Giggs heb ddewis yr amddiffynwyr Neil Taylor a James Chester, na'r ymosodwyr Sam Vokes a Christian Doidge.

Ymhlith y chwaraewyr sydd hefyd heb eu galw i'r garfan oherwydd anaf mae'r chwaraewr canol cae Joe Allen, yr amddiffynwyr Joe Rodon a Chris Mepham, a'r ymosodwr Tom Lawrence.

Bydd Cymru'n teithio i'r Ffindir ar gyfer y gêm gyntaf ar ddydd Iau 3 Medi, cyn herio Bwlgaria gartref dridiau'n ddiweddarach.

Ond mae'r Ffindir eisoes wedi gohirio cyhoeddi eu carfan hwythau heddiw, a hynny wrth i ansicrwydd barhau ynglŷn ag union ble bydd y gêm honno'n cael ei chwarae.

Mae UEFA eisoes wedi cyhoeddi na fydd cefnogwyr yn cael mynychu unrhyw gemau rhyngwladol yn Ewrop ym mis Medi o leiaf, wrth i bryderon ynghylch coronafeirws barhau.

Carfan Cymru

Gôl: Wayne Hennessey (Crystal Palace), Danny Ward (Caerlŷr), Adam Davies (Stoke City).

Amddiffyn: Chris Gunter (dim clwb), Ashley Williams (dim clwb), Ben Davies (Tottenham Hotspur), Connor Roberts (Abertawe), Tom Lockyer (Charlton Athletic), Ethan Ampadu (Chelsea), James Lawrence (Anderlecht), Ben Cabango (Abertawe), Neco Williams (Lerpwl).

Canol cae: Aaron Ramsey (Juventus), Jonathan Williams (Charlton Athletic), Harry Wilson (Lerpwl), David Brooks (Bournemouth), Matthew Smith (Manchester City), Daniel James (Manchester United), Will Vaulks (Caerdydd), Joe Morrell (Bristol City), Dylan Levitt (Manchester United).

Ymosod: Gareth Bale (Real Madrid), Hal Robson-Kanu (West Bromwich Albion), Tyler Roberts (Leeds United), Rabbi Matondo (Schalke), Kieffer Moore (Caerdydd).