Gwagio cartrefi ar ôl i drên fynd ar dân yn Llangennech
- Cyhoeddwyd
Mae'r tân ar drên disel, a achosodd i bobl orfod gadael eu cartrefi ger Llangennech, Sir Gâr nos Fercher, yn dal i losgi yn ôl y gwasanaeth tân.
Nid yw achos y tân yn glir ar hyn o bryd, a dywedodd yr heddlu bod yna "berygl sylweddol yn y cyffiniau o hyd," a'u bod yn dal i gynghori pobl i osgoi'r ardal".
Roedd y trigolion wedi cael dychwelyd i'w cartrefi erbyn bore dydd Iau, a chadarnhawyd na chafodd neb eu hanafu.
Fel rhan o'u hymchwiliad, mae'r heddlu'n casglu tystiolaeth llygad-dystion, ac yn hel lluniau camerau cylch cyfyng.
Mae'r Gangen Ymchwilio Damweiniau Rheilffordd ar y safle, a dywedodd Trafnidiaeth Cymru nad oes trenau'n rhedeg ar Linell Calon Cymru ar hyn o bryd.
Dywedodd y cwmni oedd yn gyfrifol am y trên, DB Cargo UK, mai'r flaenoriaeth nawr oedd sicrhau diogelwch y cyhoedd a lleihau unrhyw niwed amgylcheddol allai ddigwydd o'r "digwyddiad anffodus".
Ychwanegodd y cwmni fod dau weithiwr ar y trên ar y pryd, sef gyrrwr a pheiriannydd, ond ni chafodd y ddau eu hanafu.
Roedd y trên yn cludo cargo o danwydd disel modur ag olew nwy o Aberdaugleddau i Theale yng ngorllewin Sir Berkshire ar y pryd meddai DB Cargo UK.
Yn ôl yr Uwcharolygydd Andy Morgan o Heddlu Trafnidiaeth Prydain, roedd y trên oedd yn cludo llwyth o olew disel wedi mynd ar dân, a nifer o gerbydau wedi mynd oddi ar y cledrau.
"Llwyddodd y ddau aelod o staff y rheilffordd oedd yn rheoli'r trên i ddatgysylltu'r injan a'i symud i le mwy diogel," meddai.
"Roedd y tân yn un sylweddol oherwydd faint o danwydd oedd yn cael ei gludo, ac roedd yn achosi perygl i'r gymuned.
"Er diogelwch fe gaewyd ffyrdd yn yr ardal ac aeth Heddlu Dyfed Powys ati i wagio nifer helaeth o gartrefi yn ardal y tân.
"Dwi'n credu bod 300 o bobl wedi cael eu heffeithio a hoffwn ddiolch i bawb am eu dealltwriaeth a'u hymateb cyflym ar adeg oedd yn ddychrynllyd dwi'n siwr."
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am tua 23:20 nos Fercher.
Dywedodd Richard Felton o Wasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a De Cymru fod wyth pwmp yn dal ar y safle amser cinio ddydd Iau, gan bod tri cherbyd yn dal i losgi.
Pan ddaeth y rhybudd gwreiddiol cafodd 14 pwmp, a thendr ewynnu (foam tender) i eu hanfon i ddelio â'r digwyddiad.
Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Sean O'Callaghan: "Mae'r tân yn parhau ac mae 'na berygl sylweddol o'i amgylch, felly ein cyngor yw i bobl osgoi'r ardal.
"Unwaith y bydd y tân wedi'i ddiffodd, a'r lleoliad yn ddiogel i asesu ac ymchwilio, byddwn yn gweithio gyda'r Swyddfa Rheilffyrdd a Phriffyrdd a'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd i sefydlu union achos y digwyddiad."
Fe gafodd y bobl fu'n rhaid gadael eu cartrefi gais i gwrdd yn Ysgol y Bryn neu Ganolfan Cymuned Llangennech.
Dywedodd Aelod Senedd Cymru yr ardal, Lee Waters bod dau o gerbydau'r trên wedi bod yn cario "olew a nwy" o Aberdaugleddau.
"Yn syfrdanol ni chafodd gyrrwr y trên, oedd â 25 cerbyd, ei anafu," meddai ar Twitter.
Ychwanegodd bod "adroddiadau pryderus" fod disel wedi llifo i Gilfach Tywyn yn dilyn y digwyddiad.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud y byddan nhw'n asesu'r effaith amgylcheddol yn llawn pan fydd y tân dan reolaeth.
'Yr uchder yn anhygoel'
Dywedodd Gary Jones, sy'n gynghorydd dros Langennech, bod y tân "wedi ildio ychydig cyn dechrau ffrwydro".
"Roedd yr uchder yn anhygoel," meddai wrth BBC Radio Wales fore Iau.
Dywedodd ei fod yn credu bod tua 100 o bobl wedi cael eu gorfodi o'u cartrefi, ac er eu bod bellach wedi cael dychwelyd, mae'r pentref wedi'i rwystro gan yr heddlu felly does dim modd gadael.
Un fu'n cynorthwyo pobl yr ardal dros nos oedd cynghorydd arall yr ardal, Gwyneth Thomas.
"Ges i alwad ffôn yn oriau mân y bore gan brif weithredwr y cyngor sir yn dweud bod damwain ddifrifol wedi digwydd ar y rheilffordd, wrth i tua 12 o gerbydau ddod bant o'r rheilffordd a'r trên disel," meddai wrth y Post Cyntaf.
"Roedd posibilrwydd o ffrwydrad i ddigwydd, so o'dd rhaid i lawer o drigolion lleol ymadael â'u cartrefi.
"Tua 04:30 y bore wedyn gethon nhw wybod bod hi yn ddiogel iddyn nhw ddod gartre ar ôl i'r sefyllfa ymddangos yn llai peryglus na beth o'n nhw wedi meddwl ar y dechrau.
"Ni wedi bod yn ffodus bod y ddamwain ddim wedi digwydd yn agosach at orsaf Llangennech lle mae mwy o dai, neu falle bydde'r sefyllfa wedi bod yn fwy anodd i bobl symud mas."
Dywedodd Louise Perkins, sy'n byw ger y rheilffordd ei bod wedi gorfod gadael ei chartref gyda'i thri o blant - saith, 12 a 19 oed - yng nghanol y nos.
"Wrth i ni adael oll oeddech chi'n ei weld oedd tân, a'r arogl - arogl disel," meddai.
Ychwanegodd Ms Perkins ei bod wedi dechrau poeni ar ôl i'r heddlu egluro y gallai'r trên ffrwydro.
"Ar y pwynt hynny fe wnaeth fy mhlant wir ddechrau poeni," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Awst 2020