Cludo ceir o Ddyffryn Ogwen am barcio'n anghyfreithlon

  • Cyhoeddwyd
TraffigFfynhonnell y llun, Traffig Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Ceir yn cael eu cludo i ffwrdd am barcio'n anghyfreithlon yn Nyffryn Ogwen

Mae 13 o gerbydau wedi'u cludo i ffwrdd gan yr heddlu am barcio'n anghyfreithlon ar balmant yn Eryri.

Daw hyn wedi rhybuddion gan yr heddlu a swyddogion, yn dilyn cynnydd sylweddol yn nifer yr ymwelwyr i Gymru ers codi cyfyngiadau'r cyfnod clo.

Yn ôl neges gan wasanaeth Traffig Cymru roedd yr heddlu wedi bod yn "brysur heddiw yn delio ag amryw o gerbydau sydd wedi'u parcio'n amhriodol" ar yr A5 yn Nyffryn Ogwen.

Mae system talu i barcio o flaen llaw wedi ei dreialu yn Eryri, ynghyd a threfn parcio a thalu am gludiant bws.

Nid dyma'r tro cyntaf i geir gael eu cludo i ffwrdd am barcio'n "beryglus" ar hyd yr un ffordd.

Ym mis Gorffennaf fe roddwyd 180 o ddirwyon cosb mewn un penwythnos ar hyd ffyrdd ger yr Wyddfa.

Yn y cyfamser, mae swyddogion hefyd wedi bod yn rhoi tocynnau i fodurwyr sy'n parcio yn anghyfreithlon yn y Bannau Brycheiniog.

Dywedodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog fod llawer o'u meysydd parcio yn llawn erbyn dechrau prynhawn dydd Sadwrn, ac roedd swyddogion yn cynghori modurwyr i beidio â pharcio'n beryglus.

Disgrifiad o’r llun,

Traffig ar ffyrdd yn Ardal y Rhaeadrau ym Mhowys ddydd Sadwrn