Morgannwg yn colli yn erbyn Birmingham Bears

  • Cyhoeddwyd
Bu Morgannwg yn ffodus o rediadau Cooke yn ystod y dyddFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Bu Morgannwg yn ffodus o rediadau Cooke yn ystod y dydd

Er i Chris Cooke sgorio 72 o rediadau, ei sgôr personol uchaf erioed, colli oedd hanes Morgannwg yn gêm T20 Vitality Blast.

Dewisodd Morgannwg fynd ar y llain gyntaf yng Ngerddi Soffia ond heblaw am Cooke dim ond Douthwaite a sgoriodd fwy na deg rhediad.

140 am 9 oedd y sgôr ar ddiwedd yr ugain pelawd.

Roedd batwyr y Bears yn llawer iawn mwy effeithiol ac ar ddiwedd y gêm roeddynt angen 18 rhediad oddi ar 12 pelen i ennill.

Gyrrodd Burgess belen gan van der Glugten am chwech, ac yna llwyddodd Hain i gael wyth rhediad mewn dwy belen bellach.

Roedd y gêm ar ben gyda saith pelen yn sbâr a chwe wiced yn dal yn sefyll.

Mae Birmingham yn awr yn ail yn nhabl y Vitality Blast a Morgannwg yn drydydd.