Gwrthbleidiau Penfro'n cwestiynu taliad Prif Weithredwr
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwrthbleidiau ar Gyngor Sir Penfro codi cwestiynau am y penderfyniad i roi taliad o £95,000 i Brif Weithredwr yr awdurdod, yn dilyn cyhoeddiad cwbl annisgwyl ddydd Mercher fod Ian Westley yn gadael.
Mewn e-bost sydd wedi dod i sylw BBC Cymru, mae cyn arweinydd y Cyngor, Jamie Adams wedi galw ar yr arweinydd presennol, David Simpson i ganiatáu proses graffu lawn o'r penderfyniad, ac yn awgrymu mai gwrthdaro rhwng aelodau'r cabinet a'r Prif Weithredwr oedd yn gyfrifol am ymadawiad Mr Westley.
Mae'r Cynghorydd Simpson yn mynnu ei fod yn gadael o'i wirfodd.
Mae'r ebost gan Jamie Adams, arweinydd y Grŵp Annibynnol, yn feirniadol iawn o'r penderfyniad i ganiatáu i Mr Westley i adael.
Mae detholiad o e-bost y Cynghorydd Jamie Adams at Arweinydd y Cyngor, David Simpson yn cynnwys y canlynol:
"Dyw'r Cyngor ddim mewn sefyllfa i golli staff proffesiynol safonol, ac mae Ian yn sicr yn y categori hwnnw.
"Mae nifer o bethau yn fy mhoeni i am y sefyllfa... does gan aelodau ddim dealltwriaeth o'r hyn sydd wedi arwain at benderfyniad Ian.
"Fe ddylai'r taliad i Mr Westley gael ei drafod gan bwyllgor craffu fel mater brys.
"Mae'r taliad fymryn yn is na'r trothwy ariannol pan mae'r mater yn gorfod cael ei drafod gan y Cyngor llawn... mae'r taliad yn rhoi'r argraff o gytundeb amheus sydd yn amharu ar enw da bob aelod o'r awdurdod."
Mae'r alwad i gael craffu ar y penderfyniad wedi ei gefnogi gan y Cynghorydd Huw George, aelod o'r grŵp Annibynnol:
"Mae yna gwestiynau mawr. Mae Mr Westley wedi bod yn dda i Sir Benfro fel Cyfarwyddwr yn gyntaf, ac yna fel Prif Weithredwr.
"Yr hyn sydd yn creu syndod yw bod yna gyfarfod wedi bod dydd Mawrth i drafod telerau. Os oedd Mr Westley wedi penderfynu mynd, mae croeso iddo fynd. Ond mae'n debyg bod yna gyfarfod wedi bod. Y Cabinet -10 ohonyn nhw yn penderfynu - bod nhw'n mynd i roi £95,000 iddo fe i fynd.
"Beth yw hynny, i gadw fe yn dawel? D'wi ddim yn siŵr. Mae yna rywbeth mawr o'i le yn Neuadd y Sir ar hyn o bryd."
Cwestiynu penderfyniad
Mae'r grŵp Ceidwadol ar y Cyngor hefyd wedi cwestiynu'r penderfyniad i roi taliad ariannol i'r Prif Weithredwr.
Yn ôl y Ceidwadwyr, mae'r weinyddiaeth bresennol wedi cyflwyno cynnydd o 27.4% yn lefelau treth y cyngor dros gyfnod o dair blynedd, ac mi fydd nifer o drethdalwyr yn cwestiynu'r taliad yn ôl y Cynghorydd Sam Kurtz:
"Fe ddaeth David Simpson mewn dair blynedd yn ôl yn addo ei fod yn mynd i fod yn agored a thryloyw ond yn yr wythnos ddiwethaf ni wedi gweld nid yw hynny yn ffaith. Mae hynny yn siomedig ac fe fydd ddylai pobl sydd yn talu trethi cael gwybod beth sydd yn digwydd."
Gwrthododd y Cynghorydd David Simpson gais BBC Cymru am gyfweliad.
Doedd neb arall o'r cabinet ar gael chwaith i ymateb i feirniadaeth y gwrthbleidiau. Mewn datganiad, dywedodd y Cynghorydd Simpson "nad oedd yna unrhyw beth i gelu" am ymadawiad Mr Westley, ac roedd penderfyniad y cabinet yn unfrydol.
"Mae Mr Westley yn gadael yr awdurdod trwy ei gydsyniad ef a'r cyngor. Mae manylion y setliad ariannol wedi eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor. Mae'r prosesau cywir wedi cael eu dilyn."
Fe wrthododd y Cynghorydd Simpson yr awgrym fod y Prif Weithredwr yn gadael ar ôl gwrthdaro gydag aelodau'r cabinet.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Medi 2020