Dynes wedi'i hedfan i'r ysbyty ar ôl disgyn yn y Bannau
- Cyhoeddwyd
Cafodd dynes ei hedfan i'r ysbyty wedi iddi ddisgyn ac anafu ei chefn a'i braich ger rhaeadr ym Mannau Brycheiniog ddydd Sadwrn.
Bu'n rhaid i'r ddynes gael ei hachub o ardal rhaeadr Sgwd y Pannwr - man poblogaidd gydag ymwelwyr.
Cafodd y ddynes ei winsio i hofrennydd gwylwyr y glannau a'i hedfan i'r ysbyty ond does dim gwybodaeth am ei chyflwr.
Cyn penwythnos Gŵyl y Banc fis diwethaf fe wnaeth Heddlu Dyfed-Powys a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog rybuddio ymwelwyr i gadw draw o'r ardal.
Wythfed galwad yr wythnos
Dywedodd Tîm Achub Mynydd Canol y Bannau mai dyma'r wythfed gwaith i'w gwirfoddolwyr gael eu galw i ddigwyddiad mewn wythnos, a'r ail yn ardal y rhaeadrau.
Yn ôl Penny Brockman o'r gwasanaeth mae hi wedi bod yn haf prysur, gyda chynnydd yn nifer yr ymwelwyr ers dechrau'r pandemig.
Dywedodd bod nifer o gerddwyr wedi cael eu hanafu wrth faglu neu ddisgyn, tra bod eraill wedi gorfod cael eu tywys i le diogel ar ôl mynd ar goll.
"Yn ffodus, dydy pobl ddim wedi cael eu hanafu'n ddifrifol," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Awst 2020