Cregyn crancod yn cyffroi gwyddonwyr yn y gogledd

  • Cyhoeddwyd
cranc
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cwmni wedi bod yn defnyddio crancod lleol

Mae gwyddonwyr o Gymru yn gobeithio bod modd defnyddio haen o gregyn crancod ar offer PPE i ddiogelu pobl rhag Covid-19.

Y gred ydi bod yr haen yn cynnwys y cemegyn chitosan sy'n gallu lladd feirws.

Mae gwyddonwyr ym mhrifysgol Bangor yn gweithio gyda chwmni Pennotec ym Mhwllheli, ac yn gobeithio defnyddio'r cemegyn ar gyfer cyfarpar diogelwch personol - neu PPE.

Mae'r gwyddonwyr yn gobeithio ei roi ar offer meddygol, ynghyd â mygydau er mwyn diogelu gweithwyr iechyd.

Disgrifiad o’r llun,

Jonathan Hughes: 'Datblygiad cyffrous'

Unwaith fod gwyddonwyr wedi addasu'r cemegyn, fe fydd y cynnyrch yn cael ei brofi mewn labordai er mwyn asesu ei effeithiolrwydd.

Mae'r gwyddonwyr wedi derbyn arian o gronfa arbennig Llywodraeth y DU ar gyfer cynnal y gwaith ymchwil.

Dywedodd Jonathan Hughes, rheolwr gyfarwyddwr y cwmni: "Rydym wedi ein cyffroi gan hyn.

"Ffocws ein busnes yw datblygu cynnyrch naturiol sydd â budd i iechyd, y gymdeithas a'r amgylchedd. Mae eu datblygu ar gyfer deunydd meddygol yn rhywbeth newydd i ni."

Dywedodd Dr Rob Elias, cyfarwyddwr Canolfan BioGyfansoddion Bangor, y gallai'r datblygiad fod yn un hynod o arwyddocaol a phwysig.

"Pe bai ni'n gallu ei ddefnyddio, yna allwn ddychmygu faint fyddwn yn gallu rhwystro ymlediad yr haint.

"Byddai'r effaith yn enfawr - mae'n gyfle gwych."

Disgrifiad o’r llun,

Mary Griffiths-White yw cyd-berchennog y cwmni sy'n cyflenwi'r crancod

Mae'r cregyn dan sylw yn adnodd naturiol, ac maen nhw hefyd yn lleol ac yn cael eu cyflenwi gan gwmni Selective Seasfoods o Wynedd.

Fel rheol mae'r cwmni yn cyflenwi bwyd môr i gwmnïau - maen nhw am gael y cig, ac mae'r cregyn yn isgynnyrch.

"Rydym yn byw mewn cymdeithas lle mae gymaint yn cael ei daflu mae'n wyrion, felly mae unrhyw beth sy'n golygu ein bod yn gallu ailgylchu yn wych," meddai Mary Griffiths-White, cyd berchennog cwmni.