Mantais o 17 i Forgannwg yn erbyn Sir Warwick

  • Cyhoeddwyd
Billy RootFfynhonnell y llun, Andy Kearns
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Billy Root 51 heb fod allan

Llwyddodd Morgannwg i sicrhau mantais o 17 rhediad wedi'r ail ddiwrnod yn erbyn Sir Warwick yn Nhlws Bob Willis.

Sgoriodd Billy Root 51 heb fod allan wrth i Forgannwg gyrraedd 203 yn eu batiad cyntaf yng Nghaerdydd.

Yn dechrau'r diwrnod 182 rhediad yn brin o gyfanswm Sir Warwick, fe gafodd batwyr Morgannwg ddechrau simsan i'r chwarae.

Ond daeth perfformiadau cryf gan Owen Morgan, 28, a'r capten Chris Cooke, 27, i sefydlogi'r sesiwn i'r tîm cartref.

Liam Norwell a Will Rhodes oedd y gorau o fowlwyr yr ymwelwyr, gan gipio pedair wiced yr un.