Caerdydd yn dod â chytundeb Mendez-Laing i ben yn gynnar

  • Cyhoeddwyd
Gwnaeth Mendez-Laing 92 ymddangosiad i'r Adar Gleision, gan sgorio 14 gôl.Ffynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Fe sgoriodd Mendez-Laing (chwith) 14 gôl mewn 92 ymddangosiad i'r Adar Gleision

Mae Caerdydd wedi dod â chytundeb yr asgellwr Nathaniel Mendez-Laing i ben yn gynnar.

Er nad ydy'r clwb wedi egluro'r penderfyniad, mae adran chwaraeon BBC Cymru yn deall fod Mendez-Laing wedi torri telerau ei gytundeb.

Roedd y chwaraewr 28 oed - yn gynt o Wolves, Peterborough a Rochdale - yn rhan o dîm yr Adar Gleision a enillodd ddyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr yn 2018.

"Mae Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, ar unwaith, wedi terfynu cytundeb Nathaniel Mendez-Laing," ysgrifennodd y clwb mewn datganiad byr.

"Ni fydd y clwb yn gwneud unrhyw sylw pellach ar y mater."

Dywedodd datganiad gan Mendez-Laing drwy ei asiant: "Yn dilyn y cyhoeddiad heddiw fy mod wedi gadael CPD Dinas Caerdydd, hoffwn ddiolch yn gyhoeddus i'r cefnogwyr am yr holl gefnogaeth dros y tair blynedd diwethaf.

"Ni fyddaf yn gwneud sylw pellach ar hyn o bryd."

Ymunodd â Chaerdydd o dan y cyn-reolwr Neil Warnock ar drosglwyddiad am ddim o Rochdale yn 2017.

Roedd ganddo gytundeb gyda'r clwb hyd at 2021.