Pryder am effaith amgylcheddol gwaredu mygydau PPE
- Cyhoeddwyd
Mae 'na bryder fod mwy a mwy o fygydau wyneb yn cael eu taflu fel sbwriel, ac yn golchi fyny ar draethau.
Yn ôl ymgyrchwyr, mae'n fygythiad i fywyd gwyllt - yn ogystal ag iechyd a diogelwch y bobl sy'n gorfod clirio'r sbwriel.
Nawr mae 'na alw cynyddol ar bobl i ddefnyddio mwy ar fygydau sy'n gallu cael eu hail-wisgo, neu i gael gwared ar rai tafladwy mewn ffordd mwy cyfrifol.
Mae'n olygfa sydd wedi dod yn gyfarwydd yn ystod cyfnod Covid-19 - mygydau a menyg wedi'u gadael ar y llawr, naill ai wedi'u taflu neu wedi disgyn o boced neu fag.
Yn ôl mudiad Ynys Môn Di-blastig, sy'n ymgyrchu i geisio lleihau ar wastraff a'r defnydd o blastig, maen nhw wedi gweld cynnydd yn eu hardal nhw a thu hwnt.
'Llygredd PPE'
Meddai Nia Jones o'r mudiad: "Ni 'di gweld mwy a mwy o lygredd PPE o gwmpas yr ynys, a hefyd o gwmpas gogledd Cymru'n gyffredinol. Ond mae pawb wedi'i weld o o gwmpas y byd, mae o wedi gwaethygu, felly mae'n bwysig i ni gyd dechrau taclo'r broblem.
"Mae'r masgiau yn rhai un defnydd ac yn cael eu taflu ffwrdd naill ai yn yr amgylchedd yn gyffredinol. Achos eu bod nhw wedi'u gwneud o blastig, maen nhw'n aros o gwmpas am flynyddoedd a blynyddoedd.
"Mae'r darnau mwya' o blastig yn gallu clymu o gwmpas anifeiliaid ond mae'r plastig hefyd yn gallu cael ei dorri fyny i microplastig, sy'n gallu mynd mewn i foliau anifeiliaid - a hyd yn oed ein boliau ni hefyd drwy'r gadwyn fwyd.
"Rwy'n credu mai'r prif neges yw i ailddefnyddio. Felly dewis masgiau sy'n gallu cael eu golchi a'u defnyddio dro ar ôl tro - maen nhw'n ddigon diogel."
Galw am gydbwysedd
Wrth ganolbwyntio ar daclo'r coronafeirws, efallai bod sylw rhai wedi symud oddi wrth leihau'r defnydd o blastig a gwarchod yr amgylchedd - ond mae'r mudiad yn credu bod modd cael cydbwysedd rhwng y ddwy ochr.
Ychwanegodd Nia: "Dwi'n credu bod ein ffocws ni wedi newid. Wrth gwrs, mae hynny'n iawn - mae wedi bod yn amser galed i bawb. Ond nawr mae'n amser i fynd 'nôl a wir dechrau meddwl be ry'n ni'n gallu wneud i helpu ein amgylchedd mewn ffordd sy'n ddiogel i ni a'r amgylchedd."
Mae mudiadau fel yr RSPCA hefyd wedi codi pryderon y gallai anifeiliaid gwyllt ac adar fynd yn sownd yn nolenni clustiau'r mygydau - ac yn argymell bod pobl yn torri'r dolenni cyn cael gwared arnyn nhw.
Ar hyn o bryd, dim ond ar drafnidiaeth cyhoeddus y mae'n rhaid gwisgo gorchudd wyneb yma yng Nghymru, er bod llawer yn dewis eu gwisgo'n ehangach.
Gan nad oes modd ailgylchu'r math tafladwy, mae llawer felly yn dewis rhai sy'n gallu cael eu hailddefnyddio.
Wrth i'r galw gynyddu am fasgiau mwy parhaol, mae sawl cwmni wedi troi at eu cynhyrchu - gan gynnwys cwmni chwaraeon Teejac o Bentir ger Bangor.
"Pan ddechreuodd lockdown, roedd y busnes yn ddistaw," esbonia Huw Thomas o'r cwmni. "Doedd pobl ddim eisiau dillad chwaraeon. Fe ddechreuon ni wneud y masgiau am bod pobl yn gofyn amdanyn nhw. Roeddan ni'n rhoi nhw allan i'n cwsmeriaid ffyddlon am ddim i ddechrau.
"Wedyn 'naethon ni weld bod 'na farchnad allan yna. Mae 'na tua 3,000 i 4,000 wedi mynd allan hyd yn hyn.
"Ti'n gallu golchi nhw, ti'n gallu cadw nhw. Dwi'n meddwl achos bod rhai ni efo bathodyn y clwb chwaraeon neu gwmni arnyn nhw, er enghraifft, dydy pobl ddim eisiau eu lluchio nhw, felly mae hynny'n help."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2020