Mesur i roi mwy o rym gwario i Lywodraeth y DU yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Cymru a San Steffan

Bydd cyfraith arfaethedig newydd yn rhoi mwy o rym i Lywodraeth y DU wario ar gynlluniau yng Nghymru.

Mae mesur drafft fydd yn cael ei chyhoeddi ddydd Mercher yn trosglwyddo grymoedd o'r Undeb Ewropeaidd i Lywodraeth y DU i wario ar ardaloedd fel isadeiledd, diwylliant a chwaraeon.

Dywedodd gweinidogion Llywodraeth y DU y byddai'r grymoedd yn eu galluogi i lenwi bwlch cynlluniau gwario'r Undeb Ewropeaidd.

Ond dywed Llywodraeth Cymru fod y mesur yn "dwyn grymoedd" gan lywodraethau datganoledig.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts: "Y mesur yma yw'r ymosodiad unigol mwyaf ar ddatganoli ers ei fodolaeth."

O'r flwyddyn nesaf fe fydd grymoedd oedd yn nwylo'r Undeb Ewropeaidd yn cael eu trosglwyddo i lywodraethau'r DU.

Bydd mesur drafft Llywodraeth y DU yn anelu i sicrhau dyfodol y farchnad fewnol ymysg gwledydd y DU, a hynny'n "ddirwystr" o dan y drefn newydd, yn cael ei gyhoeddid ddydd Mercher.

Dywed y mesur y bydd rhai grymoedd oedd yn nwylo'r Undeb Ewropeaidd yn trosglwyddo i ddwylo'r llywodraethau datganoledig o 1 Ionawr 2021 - gan gynnwys safonau glendid yr aer ac effeithlonrwydd ynni.

Bydd y mesur hefyd yn rhoi grymoedd i Lywodraeth y DU i wario arian er mwyn llenwi'r bwlch lle roedd cynlluniau ariannu'r Undeb Ewropeaidd yn arfer bod - ar feysydd fyddai wedi bod yn nwylo Llywodraeth Cymru yn y gorffennol.

Mae'r grymoedd gwariant newydd hyn yn cynnwys isadeiledd, datblygiad economaidd, diwylliant, chwaraeon a chefnogaeth ar gyfer addysg, hyfforddiant a rhannu cyfleoedd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Jeremy Miles fod "Llywodraeth y DU yn mynd ati'n benodol i geisio ailysgrifennu'r setliad datganoli"

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru Simon Hart ei fod yn "hanfodol" fod masnach ddirwystr yn parhau rhwng pedair cenedl y DU a bod "buddsoddiadau yn parhau i lifo'n llyfn."

Fe wnaeth Jeremy Miles, Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd yn Llywodraeth Cymru ymateb drwy ddweud y byddai'r grymoedd hyn yn "aberthu dyfodol yr undeb drwy ladrata pwerau oddi ar y gweinyddiaethau datganoledig."

'Ymosodiad ar ddemocratiaeth'

Ychwanegodd Mr Miles: "Mae'r Bil yn ymosodiad ar ddemocratiaeth ac yn sarhad ar bobl Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, sydd wedi pleidleisio o blaid datganoli ar sawl achlysur.

"Efallai bod eu cynigion ar gyfer cydnabyddiaeth gilyddol yn swnio'n synhwyrol ond maent yn wn tanio i ras i'r gwaelod, gan danseilio'r safonau uchel rydyn ni'n eu mwynhau ar hyn o bryd o ran safonau bwyd, lles anifeiliaid a'r amgylchedd."

Ychwanegodd: "Mae Llywodraeth y DU yn mynd ati'n benodol i geisio ailysgrifennu'r setliad datganoli. Mae'r ffaith eu bod hefyd yn ceisio deddfwriaeth sylfaenol yn dangos eu bod yn cymryd y pwerau hynny oddi arnom ni."

Disgrifiad o’r llun,

Mae cynlluniau Llywodraeth y DU yn amlinellu pa rymoedd yr Undeb Ewropeaidd y mae'n ei fwriadu mabwysiadu, a pha rymoedd fydd yn nwylo'r llywodraethau datganoledig

Ond mae gweinidogion Llywodraeth y DU yn mynnu y bydd y grymoedd newydd dros wariant yn "gyrru ein adferiad economaidd o Covid-19 a chefnogi busnesau a chymunedau ar draws y DU."

Dywedodd Michael Gove, Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn Llywodraeth y DU y byddai'r grymoedd yn golygu y byddai "penderfyniad nawr yn cael ei wneud yn y DU, gan ganolbwyntio ar flaenoriaethau'r DU a bod yn atebol i Senedd a phobl y DU."