Dim ymweld â chartrefi gofal yn Sir Gâr a Cheredigion

  • Cyhoeddwyd
Aelod o staff yn dal llaw person hyn mewn cartref gofalFfynhonnell y llun, Getty Images

Ni fydd ymwelwyr yn cael mynediad i gartrefi gofal mewn dwy sir yn y gorllewin yn dilyn cynnydd yn lefelau Covid-19 yn y gymuned.

Brynhawn Gwener fe gadarnhaodd cynghorau Sir Gaerfyrddin a Cheredigion eu bod nhw'n atal ymweliadau dros dro.

Fe ddatgelodd Cyngor Ceredigion bod dau achos o Covid-19 wedi cael eu cadarnhau mewn dau gartref annibynnol yn y sir, ond nad oedd yr un preswylydd wedi profi'n bositif.

Dywedodd y cyngor y eu bod wedi cymryd y cam "er mwyn diogelu iechyd, diogelwch a lles ein holl breswylwyr, staff a'r cyhoedd mewn amseroedd digynsail sy'n newid yn barhaus".

"Mae gofalu am breswylwyr ein cartrefi gofal o'r pwys mwyaf i ni, felly bydd ymweliadau'n cael eu hatal dros dro", meddai'r datganiad.

Fe gadarnhaodd yr awdurdod y bydd cartrefi gofal preifat hefyd yn atal pob ymweliad dros dro.

Mewn cyhoeddiad ar eu gwefannau cymdeithasol dywedodd Cyngor Sir Gâr eu bod nhw'n cyflwyno'r mesur newydd er mwyn bod yn ofalus.

"Fel mesur rhagofalus, oherwydd bod cynnydd yn lefel Covid-19 yn y gymuned, gofynnwyd i bob cartref gofal preswyl yn Sir Gaerfyrddin atal ymweliadau, a hynny o 19:00 heddiw [dydd Gwener] am gyfnod cychwynnol o bythefnos [tan 25 Medi].

"Gofynnwyd i staff barhau i helpu teuluoedd i ymweld â pherthnasau yn yr awyr agored, cyn belled ag y bo hynny'n ymarferol."

Nid cynghorau Sir Gâr a Cheredigion yw'r cyntaf i gau drysau cartrefi gofal dros dro i ymwelwyr. Mae mesur tebyg wedi cael ei gyflwyno yn Sir Caerffili.