Canfod ffrwydryn mewn wal wrth adnewyddu tŷ

  • Cyhoeddwyd
Heddlu yn Amlwch

Mae ffrwydryn gafodd ei ddarganfod mewn wal tŷ sy'n cael ei adnewyddu ar Ynys Môn wedi ei symud yn ddiogel.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r tŷ yn Amlwch toc wedi 13:30 ar ôl i'r ddyfais gael ei ganfod mewn wal rhwng gerddi.

Cafodd pobl eu symud o dai cyfagos ac roedd rhaid iddynt aros 200m i ffwrdd.

Y gred yw bod y ffrwydryn yn dyddio o gyfnod yr Ail Ryfel Byd.

Dywedodd un sy'n byw drws nesaf ac yn rhannu'r wal lle cafwyd hyd i'r bom bod "dipyn o ddrama".

"O'n i'n gweithio o adre'. Es i allan am 12:30 a dywedodd rhywun bod o [y bom] wedi ei ddarganfod," meddai Llinos Williams.

'Lot o ddrama'

"Es i mewn ar gyfer cyfarfod gwaith ac wedyn pan nes i ddod allan am 14:00 roedd 'na dwrw mawr, a dywedodd heddwas bod rhaid i mi adael."

Ychwanegodd: "Pan ddoth y bomb squad i asesu'r sefyllfa a d'eud bod o ddim yn active, buan iawn oeddan nhw'n gallu mynd a fo a'i ddinistrio fo."

"Mae o 'di bod yn ddigon pryderus, a lot o ddrama yma."

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod y ffrwydryn wedi ei ganfod mewn eiddo ar Stryd Bethesda yn Amlwch.

Ychwanegodd llefarydd bod y ffrwydryn wedi ei symud yn ddiogel a bod pobl wedi cael dychwelyd i'w cartrefi.