Y Bencampwriaeth: Caerdydd 0-2 Sheffield Wednesday

  • Cyhoeddwyd
CaerdyddFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Er gwaethaf disgwyliadau gwahanol y ddau glwb ar ddechrau'r tymor - roedd yna sioc yn Stadiwm Dinas Caerdydd wrth i'r ymwelwyr gipio'r tri phwynt.

Y tymor diwethaf fe wnaeth Caerdydd sicrhau eu lle yn y gemau ailgyfle, tra bod Shefield Wednesday wedi dechrau'r tymor yma -12 pwynt, fel cosb am dorri rheolau ariannol.

Ond Wednesday aeth ar y blaen drwy Josh Windass wedi pum munud.

Bach iawn oedd yr ymwelwyr yn ei greu, ond roedd yna bendantrwydd a chywirdeb flaen gôl, gyda Jordan Rhodes yn ychwanegu ail ar yr egwyl.

Penderfynodd y rheolwr Neil Harris newid y patrwm o 4-3-3 i 4-4-2 ar gyfer yr ail hanner, gyda Robert Glatzel a Lee Tomlin yn dod i'r maes.

Ond prin oedd y cyfleoedd o flaen gôl.

Ar ôl y gêm dywedodd Harris: "Dim y dechrau o ni wedi ei ddisgwyl.

"Fe wnaethom hawlio meddiant o'r bêl -ond heb gyrraedd y lefelau uchel o berfformiad rydym wedi ei weld dros y naw mis diwethaf."

"