A oes bywyd ar y blaned Gwener?

  • Cyhoeddwyd
cymylau Gwener

Mae tîm rhyngwladol o seryddwyr, dan arweiniad athro o Gymru, wedi cyhoeddi iddyn nhw ddarganfod arwydd posib o fywyd ar y blaned Gwener.

Y gred yw bod nwy prin y maen nhw wedi cadarnhau ei bresenoldeb yng nghymylau'r blaned yn deillio o ficrobau.

Mae wedi ei ddisgrifio fel "datblygiad allweddol" gan y Gymdeithas Seryddol Frenhinol.

Maen nhw'n galw bellach am daith ofod i'r blaned - sef yr agosa' i'r Ddaear - er mwyn astudio ei chymylau ymhellach.

'Gormod i yfed'?

Yr Athro Jane Greaves o Brifysgol Caerdydd gafodd y syniad i chwilio am bresenoldeb y nwy - sef ffosffin.

Ar y ddaear mae'n cael ei gynhyrchu naill ai drwy brosesau diwydiannol neu gan facteria sy'n ffynnu dan amgylchiadau lle nad oes llawer o ocsigen - fel safleoedd trin gwastraff.

"Nes i feddwl wel mae cymylau'r blaned Gwener yn cynnig y math yna o amgylchiadau ac mae 'na ddyfalu wedi bod ers tro ynglŷn â'r posibilrwydd o organebau bychain yn arnofio yn y cymylau rheini," eglurodd yr Athro Greaves mewn cyfweliad gyda BBC Cymru cyn i'r darganfyddiad gael ei ddatgelu.

"Efallai i mi gael gormod i'w yfed y noson honno - ond daeth y cyfan ynghyd yn fy ymennydd fel petai," meddai.

Aeth ati i sefydlu "tîm bach" o seryddwyr i ymchwilio ymhellach, gan ddefnyddio rhai o delesgopau mwya' pwerus y byd i chwilio am arwyddion o ffosffin yng nghymylau'r blaned.

Chwe mis o brosesu data

Yn gyntaf, defnyddiodd y tîm Delesgop James Clerk Maxwell yn Hawaii, cyn llwyddo i sicrhau amser i ddefnyddio 45 telesgop sefydliad ALMA yn Chile.

Wedi chwe mis o brosesu'r data, cadarnhawyd y darganfyddiad.

"Arbrawf oedd hwn a wnaethon ni oherwydd chwilfrydedd pur, a dweud y gwir - a pan gawson ni'r awgrymiadau cyntaf bod ffosffin yn sbectrwm Fenws, roedd yn sioc," ychwanegodd Athro Greaves.

"Yn y pen draw fe ganfuom ni fod y ddwy arsyllfa wedi gweld yr un peth - amsugno gwan ar y donfedd gywir i fod yn nwy ffosffin, lle mae'r cymylau cynhesach oddi tano yn goleuo'r moleciwlau o'r tu cefn."

Bu'n rhaid wedyn ystyried a allai'r ffosffin fod wedi deillio o ffynonellau eraill megis llosgfynyddoedd ar arwyneb y blaned.

Ond daeth y tîm i'r casgliad bod modd diystyru hynny gan na fyddai'r ffynonellau hyn yn medru cynhyrchu'n agos at faint o'r nwy oedd wedi'i weld gan y telesgopau.

Serch hynny mae'r tîm yn cydnabod bod angen llawer mwy o waith er mwyn cadarnhau presenoldeb "bywyd".

'Rhoi Caerdydd ar y map'

Er bod gan gymylau uchel y blaned Gwener dymereddau dymunol o hyd at 30 gradd, maen nhw'n anhygoel o asidig gan ei gwneud hi'n anodd iawn i ficrobau oroesi yno.

Ymysg yr atebion posib sydd bellach dan ystyriaeth, gan ymchwilwyr yn yr Unol Daleithiau, yw a allai'r microbau fod yn cysgodi mewn dafnau o hylif.

Mae'r tîm bellach yn aros yn eiddgar am ragor o amser gyda'r telesgopau er mwyn chwilio am nwyon eraill sy'n gysylltiedig â bywyd.

Wrth eu llongyfarch, dywedodd yr Athro Emma Bunce, Llywydd y Gymdeithas Seryddol Frenhinol ei fod yn cynnig "achos cryf dros daith ofod yn ôl i'r Blaned Gwener".

"Cwestiwn allweddol ym maes gwyddoniaeth yw a oes bywyd y tu hwnt i'r Ddaear, ac mae'r darganfyddiad gan yr Athro Jane Greaves a'i thîm yn gam allweddol ymlaen yn y chwilio hwnnw. Rwy'n arbennig o falch o weld bod gwyddonwyr y DU yn arwain datblygiad mor bwysig."

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan: "Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn rhoi Prifysgol Caerdydd ar y map a gadael i bobl drwy'r byd wybod fod gennym academyddion gwych fel yr Athro Greaves sy'n gwneud y math yma o waith - gallai fod yn bwysig iawn os fydd yn gwireddu'i addewid... mae'n dangos y gall Cymru fod gyda'r gorau yn y byd."