50 mlynedd ers glanio ar y lleuad: Y cysylltiadau Cymreig
- Cyhoeddwyd
Mae 20 Gorffennaf yn nodi 50 mlynedd ers un o'r diwrnodau mwyaf arwyddocaol yn hanes dynoliaeth, pan laniodd Neil Armstrong, Edwin 'Buzz' Aldrin jnr a Michael Collins ar y lleuad.
12 person sydd wedi cerdded ar y lleuad erioed, gyda'r ddau ddiwethaf yn gwneud hynny ym mis Rhagfyr, 1972.
Ond beth yw cysylltiadau Cymru gyda theithio i'r gofod?
Cymry yn sail i deithiau Apollo?
Roedd Hugh Percy Wilkins yn beiriannydd o Gaerfyrddin a helpodd NASA i lanio ar y lleuad yn 1969 gyda'i fapiau manwl o wyneb y lleuad.
Wrth baratoi at deithiau Apollo i'r gofod yn y 1960au fe brynodd NASA sawl copi o fap Hugh Wilkins wedi iddo fod yn astudio'r lleuad gyda thelesgôp o'i ardd gefn ers blynyddoedd.
Oni bai am y cyfreithiwr William Grove o Abertawe a ddyfeisiodd y gell danwydd gyntaf, efallai na fyddai'r Apollo 11 wedi gallu gadael y ddaear o gwbl heb sôn am lanio yn y lle iawn ar y lleuad.
Dyfeisiodd William Grove y gell danwydd hydrogen oedd yn cynhyrchu trydan gyda foltedd uchel yn 1842.
Dros gan mlynedd yn ddiweddarach roedd dyfais Grove yn sail i'r celloedd tanwydd gafodd eu defnyddio gan NASA ar gyfer teithiau orbit Gemini Earth, ac Apollo yn glanio ar y lleuad.
Roedd Cymro, Tecwyn Roberts o Landdaniel-fab, Ynys Môn, yn un o swyddogion NASA oedd yn gweithio'n agos ar deithiau Apollo yn y chwedegau gyda Buzz Aldrin, Neil Armstrong ac eraill.
Roedd yn aelod blaenllaw o'r tîm wnaeth ddatblygu canolfan reoli NASA yn Houston a chreu'r system gyfathrebu fyddai'n cadw cysylltiad gyda llongau gofod yr holl ffordd i'r lleuad.
Fe gafodd fedal gan NASA am wasanaeth neilltuol.
Llun cynharaf?
Yn 1857 fe gynhyrchodd y Cymro John Dillwyn Llewellyn a'i ferch Thereza un o'r lluniau cynharaf o'r lleuad wedi iddo godi arsyllfa ar dir ei stâd ym Mhenlle'r-gaer i'w ferch, oedd yn rhannu ei ddiddordeb mewn seryddiaeth.
Felly pan gerddodd Neil Armstrong ar y lleuad am y tro cyntaf yn 1969 roedd hi'n naid fawr i ddynoliaeth ond hefyd yn gam bach yn hanes cyfraniad Cymru at y ras i'r gofod.
Y Ddraig yn hedfan
Ers hynny mae'r Ddraig Goch a'r iaith Gymraeg wedi bod i'r gofod sawl gwaith wrth i ofodwyr a gweithwyr NASA o dras Cymreig fel Dafydd Williams o Ganada, George Abbey o Seattle a Joe Tanner o Illinois fynd â'u balchder yn hanes eu teulu gyda nhw i'r gofod.
Joe Tanner, mab i ferch o Dregaron yng Ngheredigion, a chefnder i'r bardd Gwyneth Lewis, oedd y cyntaf i fynd â'r Ddraig Goch i'r gofod yn 1994 yn ystod un o'i bedair taith mewn gwennol ofod.
Yn 1995 daeth Tanner ar ymweliad â Llanddewi Brefi lle roedd ei dad-cu yn brifathro a rhoddodd y faner i Amgueddfa Cymru.
Yr iaith yn y gofod
Ond mae'r iaith Gymraeg ei hun wedi mynd ymhellach na dim un o'r rhain.
Mae hi'n un o'r 55 o ieithoedd sydd ar fwrdd y Voyager 1 a 2, dolen allanol, y chwilwyr gofod gafodd eu lawnsio i archwilio'r gofod yn 1977 ac sy'n dal i anfon gwybodaeth nôl.
Cafodd yr iaith ei dewis ar gyfer y Cofnod Aur a gasglwyd gan y seryddwr a'r astroffisegydd Carl Sagan i gynrychioli bywyd ar y ddaear, rhag ofn y bydd Voyager yn dod i gysylltiad â bodau eraill yn y gofod rhyw ddydd.
Mae'r Cofnod Aur yn cynnwys lluniau a synau'r ddaear a chyfarwyddiadau ar sut i ddarganfod y ddaear.
Mae'r cyfarchiad Cymraeg - yr unig iaith Geltaidd yn y casgliad - yn dweud "Iechyd da i chwi yn awr, ac yn oesoedd."
Mae Voyager erbyn hyn wedi gadael cysawd yr haul a mynd yn bellach nag unrhyw loeren o'r blaen.
Oes 'na fywyd ar Mawrth?
Cafodd y Chwiliedydd Gofod Beagle 2 ei ddylunio'n rhannol ym Mhrifysgol Aberystwyth sydd bellach yn cyfrannu at brosiect ExoMars 2018 i blaned Mawrth.
Mae Cymru eto felly'n cyfrannu at y prosiect diweddaraf i lanio ar blaned arall, a NASA wedi cyhoeddi adnodd Cymraeg ar y we, dolen allanol ar gyfer eu lluniau hyfryd o'r blaned goch.
Safleoedd hynafol
Nid peth newydd yw ein perthynas gydag archwilio'r gofod - mae henebion fel Côr y Cewri yn dangos fod y sêr a'r planedau wedi bod yn rhan ganolog o fywyd ein hynafiaid hefyd.
Roedd ein hynafiaid yn adeiladu cofebau o amgylch safleoedd arwyddocaol gwawrio a machlud yr haul, y lleuad a'r sêr. Ceir nifer o'r safleoedd pwysig hyn yng Nghymru, gan gynnwys Bryn Celli Ddu yn Ynys Môn. Codwyd y gofeb, ger tref Llanddaniel-fab, tua 5,000 o flynyddoedd yn ôl.
Cymru cosmig
Fe wnaeth y dylunydd Hefin Jones siwt ofod o wlân Cymreig a chlocsiau gofod. Mae gwaith Jones yn dangos nad oes rhaid i bobeth sy'n ymwneud â'r gofod ymwneud ag ymchwil wyddonol.
Arwain prosiect Ewropeaidd i'r gofod
Cymro o Ynys Môn sy'n arwain prosiect newydd yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd (ESA) i yrru roced i'r gofod er mwyn archwilio comed.
Dyma'r ail waith i'r asiantaeth anfon roced i archwilio comed cyn iddi gyrraedd yr haul.
Yr Athro Geraint Jones yw Pennaeth Gwyddoniaeth y Planedau yn Labordy Gwyddoniaeth y Gofod Mullard yng Ngholeg Prifysgol Llundain.
Hefyd o ddiddordeb: