Stelcian: Troseddwr yn rhydd heb i'r dioddefwr wybod

  • Cyhoeddwyd
Thomas Baddeley
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Thomas Baddeley ei ddedfrydu i gyfanswm o 16 mis dan glo

Mae deintydd gafodd ei stelcian yn gyfrinachol gan gyn glaf am bedair blynedd wedi sôn am ei sioc a'i ofid ar ôl darganfod bod y dyn wedi ei rhyddhau o'r carchar heb iddo cael gwybod.

Yn gynharach y mis hwn dywedodd Dr Ian Hutchinson wrth BBC Cymru ei fod wedi'i siomi gan y gyfraith oherwydd bod Thomas Baddeley wedi osgoi cyfnod hirach dan glo, gan nad oedd y deintydd yn ymwybodol ei fod yn cael ei stelcian.

Roedd hyn yn golygu mai dim ond uchafswm o chwe mis o garchar gallai'r barnwr ddedfrydu am y drosedd yn yr achos yma.

Dedfrydwyd Baddeley, 42 oed o Fryste, yn Llys y Goron Caerdydd i gyfanswm o 16 mis o garchar ym mis Awst ar ôl pledio'n euog i stelcian heb godi ofn, braw na gofid, a dwy drosedd ychwanegol o feddu ar arfau.

Derbyniodd Dr Hutchinson sicrwydd y byddai'n cael gwybod pryd y byddai Baddeley yn cael ei ryddhau, a'r disgwyliad oedd y byddai hynny'n digwydd rywbryd yn ystod yr wythnosau nesaf.

Ond yn dilyn ein hadroddiadau, cafodd alwad gan y gwasanaeth prawf i roi gwybod iddo fod Baddeley wedi ei ryddhau'n syth ar ôl cael ei ddedfrydu, yn sgil yr amser gafodd ei gadw yn y ddalfa ac oedi wrth glywed yr achos.

Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder fod y math yma o drosedd stelcian yn golygu nad oedd Dr Hutchinson yn gymwys i fod yn rhan o gynllun ble mae dioddefwyr yn cael gwybod pan mae troseddwr yn cael ei ryddhau, felly roedd y camau a gymerwyd yn cydymffurfio â'r rheolau perthnasol.

Disgrifiad o’r llun,

"Ry'ch chi'n dechrau teimlo, er mai fi yw'r dioddefwr yn hyn i gyd, bod eich presenoldeb yn anghyfleus," meddai Ian Hutchinson

Mae swyddogion amddiffyn arbennig Heddlu Gwent bellach yn trafod mesurau diogelwch gyda Dr Hutchinson - gan gynnwys yr opsiwn o newid ei hunaniaeth a symud i fyw mewn ardal arall.

Dywedodd Dr Hutchinson ei fod yn teimlo'n ddig gyda'r system.

"Ry'ch chi'n dechrau teimlo, er mai fi yw'r dioddefwr yn hyn i gyd, bod eich presenoldeb yn anghyfleus."

Mae'n galw am newidiadau i'r gyfraith er mwyn adlewyrchu risg y sefyllfa.

'Hynod, hynod bryderus'

Dywedodd y Fonesig Vera Baird, Comisiynydd Dioddefwyr: "Fel dioddefwr ni allai'r deintydd hwn fod wedi cael ei adael i lawr yn fwy gan y system cyfiawnder troseddol.

"Rwy'n credu bod y cyfreithiau wedi bod yn eithaf annigonol - roedd yn amlwg ei fod yn mynd i wneud niwed difrifol pe bai wedi cyflawni'r hyn yr oedd am ei wneud, ac nid oes cyhuddiad sy'n cynrychioli hynny.

"Dydych chi ddim yn deddfu oherwydd un achos ond mae angen ystyried y sefyllfa."

Dywed y Fonesig Vera Baird ei bod bellach yn ystyried codi hyn gyda'r Twrnai Cyffredinol i weld a yw'r broblem yma wedi codi mewn achosion eraill, ac mae'r Aelod Seneddol Plaid Cymru Liz Saville-Roberts wedi ysgrifennu at y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus i weld a yw'r achos hwn yn arwydd o broblem ehangach.

"Mae'r lefel pryder mae'n rhaid ei fod o a'i deulu o yn teimlo ar ôl cael gwybod bod y dyn yma wedi gweithredu fel ag y mae o wedi gwneud - mae'n rhywun yn cydymdeimlo - a ma' rhaid, o ddeall bod y troseddwr bellach wedi cael ei ryddhau eu bod nhw'n hynod, hynod bryderus," meddai.

"Dwi'n meddwl bod ni angen edrych ar sut mae'r gyfraith ei hunan yn cydnabod y dioddefwr ond hefyd sut 'da'n ni'n cefnogi dioddefwyr yn ystod datblygu achos sy'n mynd i'r llys, yn ystod eu profiad nhw gyda'r achos yn y llys ac ar ôl hynny yn ogystal."

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Roedd deunydd plastig yn gorchuddio tu mewn i gar Thomas Baddeley

Mewn datganiad, dywedodd y Swyddfa Gartref: "Mae stelcian yn drosedd sy'n peri gofid mawr ac rydym yn benderfynol o fynd i'r afael â hi.

"Cyflwynwyd Gorchmynion Amddiffyn Stelcian gennym ym mis Ionawr, sy'n amddiffyn dioddefwyr ac yn mynd i'r afael ag ymddygiad y troseddwr cyn gynted â phosib. Rydym hefyd wedi dyblu'r ddedfryd uchaf ar gyfer stelcian ac aflonyddu i 10 mlynedd."

Yn y cyfamser, mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn egluro mai dim ond dioddefwyr troseddau rhywiol neu dreisgar - lle caiff y troseddwr ei ddedfrydu i 12 mis neu fwy - sy'n gymwys ar gyfer y Cynllun Cyswllt Dioddefwyr.