Y caffi arlein sy'n trafod hil a braint
- Cyhoeddwyd
Mae Mymuna Soleman wedi'i geni a'i magu yng Nghaerdydd a dros y cyfnod clo mae hi wedi sefydlu The Privilege Cafe. Gofod arlein sy'n annog trafodaethau am hil ac anghydraddoldeb. Cafodd Cymru Fyw sgwrs gyda hi am yr hyn a'i sbardunodd i ddechrau'r drafodaeth.
"Roeddwn i ar lawer gormod o alwadau Zoom ro'n i'n teimlo oedd yn wyn iawn. Roedd yna ddiffyg cynrychioliad. Sylweddolais nad dim ond yn y byd oddi-ar-lein oedd hyn yn bodoli ond yn y byd ar-lein hefyd. Felly, gofynais y cwestiwn ar fy nghyfrif Twitter - sut mae mynegi dy hun mewn ystafell llawn braint?"
Roedd hynny yn ôl ym mis Ebrill ac ers hynny mae Mymuna wedi cynnal tua 15 sesiwn o The Privilege Cafe.
"Mi faswn i'n disgrifio'r caffi fel gofod i ddysgu, lle gall pobl ddod at ei gilydd i rannu syniadau, dysgu a thyfu. Nes i ddim ei alw yn The White Privilege Cafe oherwydd gall y term yna fod yn ddadleugar i lawer o bobl.
"Gall sbarduno ymateb mewn rhai pobl er nad ydynt yn deall y term. Felly fe alwais i o yn The Privilege Cafe er mwyn defnyddio'r elfen ddifrifol yna o fraint a sut gallwn ni ei ddefnyddio mewn ffordd gadarnhaol, a'r elfen caffi er mwyn pwysleisio ei fod yn awyrgylch anffurfiol.
Braint pobl wyn a Chymreictod
"Fe wnes i benderfyniad ymwybodol i beidio ei alw yn The White Privilege Cafe oherwydd gallai hynny droi'r sgwrs yn un amddiffynnol yn lle'n un agored. I mi, mae bod yn amddiffynnol am hyn yn golygu nad yw person wedi'i addysgu am y pwnc neu'n anwybodus, neu'r ddau.
"Dydw i ddim yn arbenigwr ar fraint pobl wyn, a dydw i ddim yn honni hynny 'chwaith. Y cyfan alla' i ei ddefnyddio yw fy mhrofiad i sef bod fy nghyfatebwyr, fy nghyd-weithwyr, a fy ffrindiau gwyn ddim wedi gorfod dioddef problemau neu backlash oherwydd lliw eu croen.
"Dw i ddim yn honni nad ydy eu bywydau nhw wedi bod yn galed, dydy o jest ddim wedi cael ei wneud yn anoddach oherwydd lliw eu croen.
"Pan wnes i'r sesiwn Does Welshness mean whiteness? [ar The Privilege Cafe] fe aeth pobl yn hynod amddiffynnol ac fe wnes i eu hannog nhw i ddod i'r sesiwn. Dim ond trydariadau oedd 'rheiny felly pan ddaeth y bobl i'r sesiwn mi oedd y persbectif yn wahanol iawn.
"Dydy llawer o'r bobl sydd yn mynychu 'rioed wedi cael y cyfle i drafod beth mae 'whiteness' yn ei olygu iddyn nhw. Roedden nhw'n dweud: 'Dydyn ni 'rioed wedi cael lle mor ddiogel i drafod beth mae ein croen gwyn ni yn ei olygu. Yn syml, mae'n fraint sydd heb gael ei ennill.'
"Does dim bai ar neb am liw eu croen a dyna le mae pobl yn camddeall materion yn ymwneud â braint pobl wyn, dw i'n meddwl. Mae'n llawer mwy systemig ac eang na chael eich geni'n wyn.
"Am eich bod wedi'ch geni'n wyn dydych chi ddim yn ymwybodol o'r braint sy'n dod gyda hynny. Mae angen atgoffa pobl o hynny ac atgyfnerthu'r neges.
Caniatáu cynnwys Instagram?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.
Annog trafodaeth
"Yn y caffi mae gen i'r hyn dw i'n ei alw yn 'whataboutisms'. Fe ddaw pobl i'r sesiwn a dweud 'wel, beth am yr iaith Gymraeg?', 'beth am rywedd?' a dw i'n ceisio pwysleisio mai gofod i drafod hil a braint yn benodol yw hwn. Felly os yw person yn ei gweld hi'n anodd i dderbyn hynny, mae'n profi i mi fod angen i'r person hwnnw ddysgu llawer iawn mwy am faterion yn ymwneud â braint.
"Mae'r cymhariaethau cyson 'ma gyda'r iaith Gymraeg yn frwydr barhaus. Dw i ddim yn dweud nad oes achos yno, ond mae'n gwneud i mi feddwl pam bod rhaid i ni gymharu materion yn ymwneud ag anghydraddoldeb? Nid yw anghydraddoldeb yn tit-for-tat. Dw i'n teimlo allwch chi ddim tynnu cymhariaethau rhwng anghydraddoldeb.
"Mae 'na amser a lle i bopeth. Dydw i ddim am wrthod materion am yr iaith Gymraeg nac am rywedd - dw i'n ddynes, yn ddu, ac yn Fwslim felly fi fydd y person yn dadlau dros y materion hynny.
"Dim ond achos fy mod i'n chwifio fy maner i, nid yw'n golygu na chei di chwifio dy un di a na chawn ni eu chwifio nhw gyda'n gilydd.
Newid er gwell
"Rhaid i ni gyd fod yn onest am ein stereoteips ein hunain. Dw i'n ymwybodol iawn o hynny fy hun. Mae gan bawb bias oddi mewn iddyn nhw. Mae pawb yn unigolyn, felly mae gennym ni gyd ein tueddiadau. Gyda hyn i gyd, wnes i fedddwl mae'n rhaid i ni wynebu'r materion hyn achos dyna'r unig ffordd y cawn ni sgyrsiau ystyrlon am y pynciau. Rhaid gofyn y cwestiynau anodd 'na.
"Wrth ofyn y cwestiynau anodd yn aml fe ddown nhw'n haws i'w trafod.
"Dw i dal i ystyried y caffi fel cyfarfod Zoom ond mae'n amlwg wedi bod yn llawer mwy na hynny o ran dysgu a thyfu, ac mae sefydliadau yn dweud eu bod nhw'n gwneud yn well. Maen nhw'n cael sgyrsiau am sut mae The Privilege Cafe wedi bod yn gatalydd i newid pethau o ran agor eu llygaid i'w braint eu hunain, nid dim ond yn bersonol ond yn sefydliadol neu hyd yn oed yn y cartref.
"Os alla i addysgu rhywun, a newid ffordd un person o feddwl mae hynny'n llwyddiant i mi. Ro'n i eisiau creu gofod lle gall pobl ddod i siarad oherwydd mae pobl wastad yn dweud pethau fel "dw i ofn dy bechu di" neu "dw i ddim yn siŵr". Do'n i wir ddim yn meddwl y basa pobl yn dod, ond fe ddaeth tua 55 i'r sesiwn gyntaf ac mewn ambell sesiwn dw i wedi cael dros 300. Mae wedi bod yn anhygoel.
"Mi faswn i'n annog unrhyw un i ddod i'r sesiynau i ddysgu am hyn. Maent yn mynd tu hwnt i beth mae bod yn wyn yn ei olygu a beth mae braint yn ei olygu, mae'n dangos sut mae defnyddio'r ddau beth yna i wella pethau."
Mae sesiynau The Privilege Cafe yn cael eu cynnal pob dydd Iau. Gallwch ddysgu mwy am y fenter ar @PrivilegeCafe_, dolen allanol.
Hefyd o ddiddordeb: