Spurs mewn trafodaethau i ailarwyddo Gareth Bale

  • Cyhoeddwyd
Gareth BaleFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bale wedi ennill 85 cap a sgorio 33 o goliau i Gymru

Mae Tottenham Hotspur mewn trafodaethau i arwyddo Gareth Bale o Real Madrid.

Fe wnaeth yr ymosodwr 31 oed adael Spurs am Sbaen am £85m yn 2013, ac ers hynny mae wedi sgorio dros 100 o goliau ac ennill Cynghrair y Pencampwyr bedair gwaith ym Madrid.

"Mae Gareth yn dal yn caru Spurs. Dyna ble mae eisiau bod," meddai ei asiant Jonathan Barnett wrth adran chwaraeon BBC Cymru.

Mae Bale hefyd wedi cael ei gysylltu â Manchester United yn y wasg yn y dyddiau diwethaf.

Benthyciad sy'n edrych yn fwyaf tebygol ar hyn o bryd, ond fe allai gael ei werthu am fod Real yn awyddus i adennill arian.

Mae'n bosib mai cyflog Bale fyddai'r broblem fwyaf i Spurs - mae ganddo ddwy flynedd yn weddill ar ei gytundeb gwerth tua £600,000 yr wythnos ym Madrid.