Gwrthdrawiad M4: Gyrrwr beic modur 70 oed wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae gyrrwr beic modur 70 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr M4 yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ger Llandarcy am tua 16:25 ddydd Llun.
Roedd y gwrthdrawiad rhwng beic modur a char wedi cau'r ddwy ffordd rhwng cyffyrdd 42 a 44 am oriau.
Roedd y traffig wedi ymestyn yn ôl chwe milltir gyda ffyrdd i mewn i Abertawe a Chastell-nedd hefyd wedi'u heffeithio.