Cwpan Her Ewrop: Bryste 56-17 Dreigiau
- Cyhoeddwyd
Mae'r Dreigiau allan o Gwpan Her Ewrop wedi iddyn nhw gael cweir ym Mryste yn rownd yr wyth olaf nos Wener.
Aeth y Dreigiau ar y blaen gyda gôl gosb gan Sam Davies cyn i gais Gan Ashton Hewitt ymestyn eu mantais i 10 pwynt.
Ond fe wnaeth y tîm cartref daro 'nôl gyda chais gan Nathan Hughes ac yna dau gan Ben Earl i'w rhoi ar y blaen o 24-10 ar hanner amser.
Fe wnaeth Bryste ymestyn eu mantais yn yr ail hanner gyda chais gan Semi Radradra cyn i'r Dreigiau ymateb trwy gais gan y mewnwr Rhodri Williams.
Llwyddodd y tîm o Loegr i ychwanegu tri chais arall yn y munudau olaf wrth i'r clo Chris Vui a'r eilyddion Max Malins a Dan Thomas groesi'r gwyngalch.
Daeth 21 pwynt o droed y maswr Callum Sheedy i'r tîm cartref hefyd i'w gwneud yn fuddugoliaeth swmpus i Fryste.