Y Bencampwriaeth: Notts Forest 0 - 2 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Kieffer Moore yn penio gôl gyntaf CaerdyddFfynhonnell y llun, Lluniau Getty
Disgrifiad o’r llun,

Fe ymunodd Kieffer Moore â chlwb Caerdydd o Wigan ym mis Awst

Kieffer Moore oedd seren y gêm i Gaerdydd wrth iddyn nhw guro Nottingham Forest 0-2.

Fe sgoriodd ei gôl cyntaf i'r Adar Gleision, diolch i beniad rhydd o gornel wedi tri munud o chwarae.

Fe ddyblodd Moore y fantais wedi 40 munud, wrth i Forest fethu ag amddiffyn croesiad i'r cwrt cosbi.

Cafodd y tîm cartref ail-wynt wedi'r egwyl ond nid oedden nhw'n gallu dod o hyd i ffordd i guro golwr Caerdydd, Alex Smithies.

Wedi'r gem dywedodd rheolwr yr Adar Gleision, Neil Harris: "Rwy'n falch iawn mewn cymaint o ffyrdd gyda'r perfformiad yna.

"Rwy'n falch iawn bod y dyn mawr (Kieffer More) wedi llwyddo achos roedd ei chwarae yn gyffredinol yn ardderchog.

"Ymatebodd y tîm yn dda i'r feirniadaeth nad oeddem wedi dechrau'r tymor yn dda iawn," meddai, "ac roedden nhw'n chwarae yn ystod yr hanner cyntaf yn yr union ffordd yr hoffwn i iddyn nhw ei wneud nawr, ac o hyn ymlaen."