Dyn yn yr ysbyty wedi tân mawr mewn tŷ yn Sir Fynwy
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi dioddef anafiadau difrifol yn dilyn ffrwydrad mewn tŷ yn Sir Fynwy.
Cafodd ambiwlans awyr a thri cherbyd eu hanfon i'r digwyddiad ar Lower Church Street yng Nghas-gwent am 18:30 nos Lun.
Cafodd dyn 38 oed a oedd tu fewn i'r adeilad ei gludo i Ysbyty Treforys.
Fore Mawrth, dywedodd Heddlu Gwent bod ei anafiadau'n ddifrifol ond nad ydynt yn peryglu ei fywyd.
Ni chafodd unrhyw un arall ei anafu yn y digwyddiad.
Dywedodd yr heddlu bod pobl wedi eu symud o dai cyfagos ar y stryd nos Lun, a'u bod yn dal i ofyn i'r cyhoedd gadw draw ddydd Mawrth.
Mae'r ffrwydrad wedi achosi "difrod sylweddol" i'r adeilad, ac mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw.
Dywedodd cwmni ynni Wales and West Utilities eu bod wedi sicrhau bod y safle'n ddiogel, ond nad ydynt yn credu bod y digwyddiad yn gysylltiedig â'r cyflenwad nwy.