Dyn, 24, yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio dyn ym Mangor
- Cyhoeddwyd

Mae teulu Dean Skillin wedi talu teyrnged i "fab a brawd oedd yn byw bywyd i'r eithaf"
Mae dyn 24 oed wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio dyn ifanc arall ym Mangor.
Mae Brandon Sillence, o Doronnen yn y ddinas, wedi'i gyhuddo o lofruddio Dean Skillin, 20, o Gaernarfon.
Bu farw Mr Skillin yn dilyn adroddiadau o gythrwfl y tu allan i Westy'r Waverley ar Stryd yr Orsaf, Bangor nos Sadwrn, 19 Medi.
Cafodd ei drin gan swyddogion yr heddlu a pharafeddygon ond bu farw'n ddiweddarach yn yr ysbyty.
Mewn gwrandawiad byr yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Mercher, fe siaradodd Sillence i gadarnhau ei enw, ei gyfeiriad a'i ddyddiad geni.
Mae hefyd wedi'i gyhuddo o ymosod gan achosi niwed corfforol i ddyn arall.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ar 25 Medi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Medi 2020