Teyrnged i ddyn ifanc o Gaernarfon fu farw ym Mangor

  • Cyhoeddwyd
Dean Harry SkillinFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Dean Harry Skillin yn dilyn adroddiadau o gythrwfl ym Mangor nos Sadwrn

Mae teulu dyn ifanc o Gaernarfon gafodd ei ladd yn dilyn digwyddiad ym Mangor wedi rhoi teyrnged i "fab a brawd oedd yn byw bywyd i'r eithaf".

Bu farw Dean Harry Skillin, 20, yn dilyn adroddiadau o gythrwfl y tu allan i Westy'r Waverley ar Stryd yr Orsaf ym Mangor nos Sadwrn.

Cafodd ei drin gan swyddogion yr heddlu a pharafeddygon ond bu farw'n ddiweddarach yn yr ysbyty.

Mae dyn lleol 24 oed gafodd ei arestio bellach wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth.

'Balch iawn ohono'

"Roedd Dean yn berson hapus, caredig, oedd yn cael ei garu fel mab a brawd," meddai ei deulu mewn datganiad.

"Roedd yn caru bywyd ac yn ei fyw i'r eithaf. Roedd yn caru ei deulu cyfan ac roedden ni oll y falch iawn ohono.

"Fe fyddwn ni yn ei golli yn ofnadwy ond bydd Dean yn ein calonnau am byth a ry'n ni'n gweddïo na fydd yn rhaid i'r un teulu arall ddioddef yn y fath ffordd."

Dyn yn y llys

Yn y cyfamser mae Brandon Luke Sillence, 24 oed o Fangor, wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth ac o ymosod ar ddyn arall yn yr un digwyddiad.

Bydd yn ymddangos gerbron ynadon Llandudno fore Mercher, 23 Medi.

Ychwanegodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod yn parhau i apelio am wybodaeth am y digwyddiad am tua 22:30 nos Sadwrn.

Dylai unrhyw un all fod o gymorth ffonio 101 gan ddyfynnu'r cyfeirnod Y139039.